Neidio i'r prif gynnwy

System brysbennu newydd dros y ffôn yn gwella amseroedd aros pediatrig

Mae rhoi model newydd ar waith ar gyfer atgyfeirio plant at Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf wedi ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i wasanaethau.

Mae Adran Therapïau Pediatrig y Bwrdd Iechyd wedi elwa’n ddiweddar o brosiect a gafodd ei gyllido gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Roedd y tîm wedi croesawu’n frwd y cyfle i ddatblygu model newydd o newid er mwyn darparu hyfforddiant ledled y tîm amlddisgyblaethol, a gweithio mewn ffyrdd gwahanol er mwyn ateb y galw a delio â heriau o ran adnoddau.

Roedd y ffocws yn bennaf ar atgyfeiriadau plant a phobl ifanc at wasanaethau, er mwyn sicrhau bod yr atgyfeiriadau cywir yn cael eu derbyn ar y rhestr aros a nodi lle y gellid cael yr effaith fwyaf i’r rhai sydd mewn angen fwyaf.

Cychwynnodd Ffisiotherapi Pediatrig y prosiect trwy gyflwyno proses brysbennu dros y ffôn a llunio’r gwaith papur ategol a gafodd ei gyflwyno wedyn i dimau eraill. O’r blaen, pan fyddai’r adran yn derbyn atgyfeiriad, byddai’r claf yn cael ei roi ar restr aros am ryw 14 wythnos, a byddai’n cael ei weld wedyn yn dilyn trefn blaenoriaeth a dyddiad yr atgyfeiriad.

Serch hynny canfu’r tîm nad nhw oedd yn y safle gorau i ddatrys y broblem bob tro ac y byddai gwasanaeth iechyd neu gymdeithasol arall yn fwy o fudd, a byddai hynny wedyn yn achosi oedi pellach i'r plentyn.

Trwy gyflwyno’r model newydd, bydd therapydd cymwysedig yn derbyn yr atgyfeiriad ac yn brysbennu’r claf trwy siarad â’r person priodol dros y ffôn. Gall y person hwnnw fod yn rhiant, gwarcheidwad neu’n athro weithiau.

Gall yr asesiad dros y ffôn gymryd tua 45 munud, ac er y gall hyn fod yn amser hir, mae’r tîm yn cael y manylion llawn am gryfderau ac anawsterau’r person ifanc ynghyd â’r cyfle i feithrin dealltwriaeth o’r canlyniadau a’r disgwyliadau y mae pawb yn gobeithio eu gwireddu.

Ers cyflwyno’r system, mae’r tîm wedi gweld bod canlyniadau i gleifion a’u teuluoedd wedi gwella’n aruthrol, ac mae’r dull newydd o weithio wedi bod yn llesol iawn i berthnasau gwaith y tîm a’r gwasanaeth.

Meddai Sarah Lewis-Simms, Dirprwy Brif Therapydd Galwedigaethol: “Gall y wybodaeth rydyn ni’n ei derbyn ar yr atgyfeiriad ar un llaw a phryderon y claf a’i ofalwr ar y llaw arall, fod yn wahanol iawn.

O ganlyniad i’r prosiect hwn, rydyn ni wedi newid sut rydyn ni’n gweithio ac mae ein trafodaethau â’r claf a’i deulu am beth sy’n eu poeni fwyaf yn gliriach.

"Byddwn hefyd yn gwybod ar ôl yr asesiad dros y ffôn a oes gan y plentyn / person ifanc anghenion y gallwn ni ddelio â nhw yn syth trwy gynnig chyngor a strategaethau. Fel arall gallwn ei gyfeirio at wasanaethau eraill all ateb ei gwestiynau cyn iddo ddod i’w apwyntiad nesaf.

"Pan fydd y plentyn / person ifanc yn dod i mewn am ei apwyntiad â’r therapydd, mae ansawdd yr apwyntiad yn well o lawer gan ein bod wedi cael y manylion llawn am ei gryfderau a’i anghenion ymlaen llaw.

Nid yn unig bod gwasanaeth gwell i blant / pobl ifanc a’u teuluoedd, mae’r newid i’r gwasanaeth yn golygu ei fod yn llawer mwy effeithlon ac effeithiol gyda’r adnoddau sydd ganddo.”

“Ers i ni roi’r gwasanaeth brysbennu ar waith rydyn ni wedi gweld rhagor o gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda’r plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghwm Taf i wneud newidiadau o safon.”