Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae nyrsio mewn cartref gofal yn wahanol i nyrsio mewn amgylcheddau eraill?

Byddai'r rhan fwyaf o’r gymdeithas yn disgrifio nyrs fel rhywun sy'n adfer iechyd person ar ôl cyfnod o salwch, sydd yn aml yn digwydd o fewn amgylchedd yr ysbyty.  Er bod yr ymagwedd hon yn disgrifio agwedd bwysig ar rôl nyrs, nid yw'n ystyried cyfrifoldebau ehangach nyrs, ac yn fwy penodol, nyrsys sy'n gofalu am bobl o fewn cartrefi gofal.

Mae sgiliau asesu cadarn a sgiliau dwysáu, eirioli ac arwain yn ddim ond rhai y mae pob nyrs mewn cartref gofal yn eu datblygu a’u mireinio. Mae nyrsio mewn cartref gofal yn wahanol iawn i nyrsio mewn ysbyty.

Er bod gan nyrsys y sgiliau a'r arbenigedd i ofalu am breswylwyr sy'n dioddef o afiechyd, maent yn canolbwyntio ar gynnal iechyd, a sicrhau bod preswylwyr yn byw bywyd o ansawdd da gan ganolbwyntio ar ddewisiadau’r unigolyn a'i deulu. Ffurfir perthynas gref rhwng y staff a'r preswylwyr, a chyfeirir yn aml at y preswylwyr fel "aelodau estynedig o'r teulu". Ni ddylai heriau, llwyddiannau ac effeithiau nyrsio o fewn cartref gofal gael eu hanwybyddu ond yn hytrach, eu rhannu â chenhedlaeth nesaf y gweithlu nyrsio.

Dywedodd un myfyriwr nyrsio, "Nid oeddwn erioed wedi ystyried gyrfa nyrsio o fewn cartref gofal, a chredaf fod hynny'n bennaf oherwydd, hyd yma, nid oeddwn erioed wedi deall rôl nyrs yn yr amgylchedd hwn".

Yn hanesyddol, bu ffocws lleoliadau myfyrwyr nyrsio ar y GIG. Fel arfer, fydd y myfyrwyr hyn ddim yn treulio llawer o amser yn y sector gofal iechyd, ac ambell waith, dim amser o gwbl. Mae hyn wedi creu diffyg dealltwriaeth rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cartref gofal yn lleoliad delfrydol i gynyddu ehangder y cyfleoedd dysgu a chael gwell dealltwriaeth o’r mathau gwahanol o nyrsio. Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi arwain at weithredu Cymru Iachach,  sydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithlu cynaliadwy cydlynol. Gall codi ymwybyddiaeth a chynyddu ehangder y profiad annog myfyriwr sy'n dymuno bod yn nyrs i ystyried llwybr gyrfa gwahanol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.