Neidio i'r prif gynnwy

Stori Julie

“Roedd yn syndod llwyr, ond yn un braf iawn,” meddai Julie Roberts, 52, darlithydd mewn bydwreigiaeth yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, ar y newyddion ei bod ar y rhestr fer yng nghategori Addysgwr y Flwyddyn yn y Gwobrau Student Nursing Times 2019.

“Roeddwn i'n eistedd wrth fy nesg ac wedi derbyn e-bost gan y myfyrwyr a'm henwebai. ' Llongyfarchiadau’ oedd y pennawd ar yr e-bost, ond oherwydd bod gennym un neu ddau o'n myfyrwyr a oedd yn mynd ymlaen i gael eu henwebu ar gyfer gwobrau eraill, roeddwn yn tybio ar unwaith ei fod yn ymwneud â hynny. Pan wnes ei ddarllen, roeddwn wedi fy syfrdanu braidd.”

Yn wreiddiol yn rheolwr ardal ar gyfer nifer o wahanol gwmnïau esgidiau, penderfynodd Julie ar newid gyrfa unwaith yr oedd ei phlant mewn addysg amser llawn. “Fe wnes i anadlu'n ddwfn, mentro a dechrau ar y llwybr gyrfa i fydwreigiaeth, rhywbeth roeddwn i wastad eisiau ei wneud. Ac nid wyf erioed wedi difaru hynny. Mae wedi rhoi cymaint o bleser i mi."

Mae'r siwrnai honno wedi cynnwys gwneud gradd mewn bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, gweithio fel bydwraig glinigol yn Ysbyty Gwynedd, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsy Cadwaladr, ac yna dychwelyd i Brifysgol Bangor yn 2017 i ddod yn ddarlithydd bydwreigiaeth llawn amser.

“Rwyf wrth fy modd â'r hyn rwy'n ei wneud,” meddai Julie sy'n byw yn Nhregarth ychydig y tu allan i Fangor. “Rwyf wrth fy modd yn bod gyda'r myfyrwyr a chymryd rhan yn eu hyfforddiant. Mae gweld eu cynnydd yn beth gwych, mewn gwirionedd. Yn wir, mi wnâ'i alw'n fraint.

"Ond nid amdana i yn unig yw hwn. Mae'r tîm bydwreigiaeth yma yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn wych wrth fy nghefnogi. Mae unrhyw lwyddiant o ddiolch i'r tîm cyfan oherwydd ein bod yn gweithio mor dda gyda'n gilydd. Efallai ei fod yn swnio braidd yn ystrydeb, ond mae'n ymdrech ar y cyd."