Mae AaGIC wedi croesawu sioe deithiol genedlaethol y TUC "Marw i Weithio" yn y GIG ac ychwanegodd ei enw at y Siarter a anelwyd at helpu cyflogeion sy'n dioddef salwch angheuol yn y gwaith.
Rydym ni, ynghyd â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, i gyd wedi llofnodi'r Siarter sy'n cynnig amddiffyniadau ychwanegol i filoedd o weithwyr.
Mae'r ymgyrch Marw i Weithio yn ceisio sicrhau mwy o ddiogelwch i weithwyr sydd â salwch terfynol lle na ellir eu diswyddo o ganlyniad i'w cyflwr. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu gan y TUC yn dilyn achos Jacci Woodcook, rheolwr gwerthiannau ardal o Swydd Derby a gafodd ei gorfodi allan o'i swydd ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol y fron.
Mae'r TUC yn gofyn i gyflogwyr ymrwymo i'w Siarter i atal achosion fel Jacci rhag digwydd yn y dyfodol. Mae'r Siarter Marw i Weithio bellach yn cwmpasu dros filiwn o weithwyr, gan gynnwys staff gyda cyflogwyr adnabyddus fel Rolls Royce, y Post Brenhinol a Banc Lloyds.
AaGIC yw un o dri cyflogwr cyntaf y GIG yng Nghymru i ymrwymo i'r Siarter.
Dywedodd Tanya Palmer, Ysgrifennydd Rhanbarthol UNISON Cymru:
"Drwy ymuno â'r Siarter Marw i Weithio, mae tri o gyflogwyr GIG Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd unrhyw gyflogai sy'n dioddef salwch angheuol yn cael ei gefnogi a'i rymuso i wneud penderfyniadau am ei fywyd gwaith heb ofni effeithiau na cholli incwm.
"Mae'n amhosib rhagweld sut y byddai unrhyw un yn ymateb mewn sefyllfa o'r fath - efallai y bydd rhai gweithwyr yn dewis aros yn y gwaith am gyhyd ag y gallant, efallai y bydd eraill am dreulio eu hamser gyda anwyliaid.
"Beth bynnag yw dewis y person, mae cael cefnogaeth ei gyflogwr yn hanfodol ac rydym yn falch bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cydnabod hyn."
Dywedodd Gareth Hathway, Arweinydd Marw i Weithio TUC Cymru :
"Eich gwaith chi ddylai fod y lleiaf o'ch pryderon pan fyddwch chi'n cael diagnosis terfynol.
"Mae ein GIG yno i ni pan fydd ei angen arnom, a diolch i gyflogwyr y GIG a'r undebau yn cydweithio bydd miloedd o weithwyr y GIG yn cael eu cefnogi pan fydd arnynt angen cefnogaeth yn fwyaf.
"Mae cyflogwyr yn arwain y ffordd yng Nghymru ac rwy'n gobeithio gweld mwy o sefydliadau iechyd yn llofnodi'n fuan."
Dywedodd Alex Howells, Prif Swyddog Gweithredol AaGIC: "Rwy'n falch iawn mai AaGIC yw un o'r sefydliadau iechyd cyntaf i lofnodi'r Siarter 'Marw i Weithio' yng Nghymru a fydd yn amddiffyn staff sydd ag afiechydon angheuol."