Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n darparu adnoddau gwerthfawr i'n meddygon Arbenigedd ac Arbenigol (SAS) yng Nghymru

Mae meddygon SAS yn rhan hanfodol, arwyddocaol a phrofiadol o’r gweithlu meddygol yn GIG Cymru.

Gall gyrfa fel meddyg SAS fod yn ddewis boddhaol a gwerth chweil iawn i lwybrau hyfforddi traddodiadol ac mae llawer o resymau gwahanol dros ei ddewis fel opsiwn gyrfa hir dymor neu dymor byr. Dewisodd llawer o feddygon SAS y llwybr gyrfa hwn gan ei fod yn rhoi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith iddynt.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) yng Nghymru wedi lansio papur briffio newydd yn ddiweddar sy’n galw ar fyrddau iechyd i ddatblygu ymhellach a chydnabod sgiliau, arbenigedd a chyfraniad meddygon SAS ac rydym yn croesawu’r Adroddiad hwn yn fawr.

Mae ein tîm SAS yn darparu arweinyddiaeth ac yn hwyluso addysg, hyfforddiant a dilyniant gyrfa ar gyfer holl feddygon a deintyddion SAS yng Nghymru. Dan arweiniad Mr Raj Nirula, Deon Cyswllt ymroddedig ers dros ddeng mlynedd, mae wedi datblygu a dylanwadu ar gynlluniau strategol i helpu a chefnogi rhwydwaith meddygon SAS yng Nghymru.

Cefnogir y tîm hefyd gan rwydwaith o diwtoriaid SAS sydd wedi’u lleoli ym mhob un o’r byrddau iechyd ledled Cymru ac mae’r tiwtoriaid yn helpu i hwyluso hyfforddiant a dilyniant gyrfa i feddygon SAS yn uniongyrchol. Yn AaGIC rydym yn awyddus i feddygon SAS gael mynediad pellach at y cyngor cywir yn enwedig os ydynt yn ystyried cychwyn ar y llwybr CESR (Certificate of Edibility for Speciality Resignation) i gofrestriad arbenigol. O ganlyniad i hyn, rydym wedi datblygu rhwydwaith o feddygon ledled Cymru sydd wedi cyflawni cofrestriad arbenigol drwy'r llwybr hwn. Mae tua 30 o feddygon yn cymryd rhan weithredol yn y rhwydwaith hwn i gefnogi eu cydweithwyr drwy'r broses. Rydym hefyd wedi datblygu llinell gymorth cyngor CESR fel y gall meddygon sy'n ystyried y llwybr hwn gysylltu â ni a chael cyngor.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o ddatblygu ystod o fodiwlau dysgu generig ar gyfer meddygon sy'n ymdrin â phynciau fel addysg feddygol a ffactorau dynol. Rydym yn bwriadu datblygu mwy o fodiwlau eleni. Bydd y modiwlau hyn yn cael eu rhedeg yn rhithiol a byddant yn rhad ac am ddim i'w mynychu.

Rydym hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol ar gyfer meddygon/deintyddion SAS. Gall unigolion wneud cais am gyllid ar gyfer cyrsiau a chymwysterau ôl-raddedig yr ystyrir eu bod yn helpu gyda datblygiad proffesiynol a gwasanaeth. Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y gyllideb gwyliau astudio y mae llawer o Fyrddau Iechyd yn ei chynnig ar hyn o bryd.

Bob blwyddyn (ac eithrio yn ystod anterth y pandemig), mae dwy gynhadledd feddygon a deintyddion SAS wedi’u cynnal (fel arfer un yng Ngogledd Cymru ac un yn Ne Cymru) gan roi cyfle i feddygon SAS rwydweithio â’i gilydd o wahanol arbenigeddau, cyfarwyddiaethau a thimau mewn rhwydweithiau lleol.

Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys;

  • Tiwtoriaid SAS yn arwain ar ddatblygu pecynnau hyfforddiant pellach.
  • Datblygu cyfleoedd arweinyddiaeth bwrpasol ar gyfer meddygon SAS.
  • Datblygu cymorth pellach i SAS sy'n raddedigion meddygol rhyngwladol ac yn newydd i ymarfer yn y DU.

 

Dywedodd Dr Ian Collings, Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygaeth “Rydym bob amser wedi bod â thraddodiad cryf o gefnogi ein meddygon SAS yng Nghymru, gyda’r adnoddau sydd ar gael a’n nod yw adeiladu ar y traddodiad hwn wrth symud ymlaen i barhau i godi ymwybyddiaeth a chynyddu’n gadarnhaol. Dealltwriaeth o’r rôl a’r potensial sydd ganddi yn y dyfodol.

Un o brif gyfrifoldebau fy rôl yw sicrhau bod meddygon SAS yng Nghymru yn cael mynediad at gymorth a chyfleoedd datblygu a byddwn yn archwilio opsiynau i adeiladu ymhellach ar yr adnoddau sydd gennym yn eu lle dros y flwyddyn nesaf a nodi meysydd o arfer gorau sydd gennym, o bosib yn gweithredu yng Nghymru”.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer SAS yma;

https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/meddygon-sas/