Neidio i'r prif gynnwy

Rôl hanfodol gwyddonwyr gofal iechyd yn ystod pandemig Covid-19

Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn rhychwantu 50+ o ddisgyblaethau ac yn ymwneud ag 80% o ddiagnosis clinigol, maent wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi gwaith Covid-19 mewn sawl ffordd wahanol. Clywch gan ychydig ohonynt yma.

Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Pennaeth Peirianneg Glinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Bob dydd, mewn ysbytai ledled y byd, mae peirianwyr a gwyddonwyr clinigol yn cadw cleifion yn ddiogel trwy reoli technoleg feddygol, cadw golwg ar ddyfeisiau meddygol a sicrhau bod pob darn o offer meddygol yn gweithio ar ei orau. Pan gydiodd y pandemig Covid-19, gweithiodd ein peirianwyr clinigol yn ddiflino i sicrhau bod y systemau, yr offer a'r dyfeisiau cywir ar waith. Daw eu harbenigedd yn gyswllt hanfodol wrth gydlynu cadwyni cyflenwi technoleg feddygol achub bywyd.

"Fel peirianwyr clinigol, rydych chi bob amser yn cael heriau o ddydd i ddydd ac nid ydych chi byth yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Er mwyn cwrdd â'r galw disgwyliedig ar gyfer cleifion sydd angen peiriannau anadlu, er enghraifft, helpodd ein tîm peirianneg glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda i gyfrifo'r llwyth uchaf y gallai systemau pib linellau nwy'r ysbyty ei wrthsefyll. Yn fodlon y gallai digon o aer meddygol ac ocsigen gael eu danfon i wardiau a meysydd gofal critigol, fe symudon ni ymlaen i'r broblem nesaf. Dro ar ôl tro, daethpwyd o hyd i atebion.”

 

Hannah Hunt, Ffisiolegydd Anadlol, Rheolwr Uned Adran Swyddogaeth yr Ysgyfaint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Yn ystod y pandemig, bu'n rhaid i staff yn Adran Swyddogaeth yr Ysgyfaint wisgo Cyfarpar Diogelu Personol llawn wrth gyflawni'r holl brofion anadlu. Gobeithio y bydd y brechlyn yn caniatáu dychwelyd yn araf i arfer arferol a fydd o fudd i'n staff a'r cleifion a welwn.”