Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddir gwobr i Kathryn Marshall o AaGIC am ei chyfraniadau eithriadol i Ddeintyddiaeth gan y Coleg Deintyddiaeth Gyffredinol 

Mae’r Coleg Deintyddiaeth Gyffredinol wedi cyhoeddi’r rhai fydd yn derbyn Canmoliaeth a Gwobrau Cymrodoriaeth ei Lywydd 2022. 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Kathryn Marshall, Pennaeth Datblygu’r Gweithlu Deintyddol AaGIC, wedi derbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus agoriadol am ei chyfraniadau eithriadol i ddeintyddiaeth. 

Dyfyniad gan Kathryn 

Dywedodd Kathryn, “Rwy’n falch iawn i dderbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus hon gan y Coleg Deintyddiaeth Gyffredinol. Mewn gwirionedd, dylid ei rannu gyda’r holl dimau deintyddol y bues i'n cydweithio â nhw yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Mae nhw wedi cael cymaint o ddylanwad ar fy nhaith fel gweithiwr deintyddol proffesiynol ac yn parhau i gael dylanwad arna i.” 

Aeth Kathryn ymlaen, “Mae fy ngwaith yn AaGIC yn fy ngalluogi i barhau i ddylanwadu a chefnogi’r gweithlu deintyddol i ddiwallu anghenion gofal iechyd poblogaeth Cymru a mwynhau gyrfa ddeintyddol foddhaus ar yr un pryd.” 

Gyrfa ddeintyddol a chyflawniadau Kathryn 

Mae gan Kathryn FCGDent (Anrh.) ac mae ganddi dros 40 mlynedd o brofiad fel nyrs ddeintyddol. Cyd-sefydlodd bractis deintyddol cyffredinol ac arbenigol yn Surrey lle bu’n cynorthwyo myfyrwyr nyrsio deintyddol i gael eu cymwysterau cofrestredig gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). 

Rhwng 2000 a 2007, Kathryn oedd y Tiwtor Gofal Deintyddol Proffesiynol (DCP) i Ddeoniaeth Caint, Surrey a Sussex (KSS). Hi hefyd oedd Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant i Dechnegwyr Deintyddol Clinigol Dip KSS (CDT) o 2013 tan 2019.  

Mae gan Kathryn Ddiploma mewn Addysg Iechyd Deintyddol, Diploma mewn Arwain a Rheoli ac MSc mewn Gofal Iechyd Arbenigol ac Uwch. Mae hi wedi bod yn arholwr i’r Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol. Roedd hi hefyd yn Arholwr Allanol ar gyfer y Dystysgrif Uwch mewn Dysgu wedi’i Hwyluso mewn Ymarfer Gofal Iechyd, ac i’r Tystysgrif Uwch mewn Mentora a Hyfforddi.ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn. 

Bu hefyd yn aelod o Banel y GDC am Addasrwydd i Ymarfer am bum mlynedd, a’r unig weithiwr deintyddol proffesiynol a benodwyd i Fwrdd Cynghori e-DPP y GDC. 

Hoffem ni yn AaGIC achub ar y cyfle hwn i longyfarch Kathryn am y wobr anhygoel hon sy’n ei gwobrwyo am ei holl waith caled.