Neidio i'r prif gynnwy

Rhanddeiliaid Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan

Am y Rhaglen Staffio Nyrsio

Ar ran GIG Cymru, Mae Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan yn cefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflawni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 a dilyn dull ‘Unwaith i Gymru’. Rydym yn goruchwylio rhaglen waith genedlaethol sy’n cyfrif y nifer a’r cyfuniad cywir o sgiliau gan staff nyrsio i ddiwallu cleifion unigol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan GIG Cymru y nifer sydd ei angen a gweithwyr nyrsio proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ar gyfer pobl Cymru.

 

Yr Achlysur

Ar ran GIG Cymru mae AaGIC yn cynnal achlysur ledled y DU i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol mewn perthynas â Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan.

Cynhelir achlysuron i randdeiliaid bob cwarter bob blwyddyn yn dilyn cyflwyno adroddiad cwarterol o uchafbwyntiau’r rhaglenni. Gan ddechrau gyda'r achlysur hwn, bydd yr achlysuron yn cael eu treialu ar gyfer dau achlysur ac yna'n destun adolygiad yn seiliedig ar adborth gan y rhai fydd yn eu mynychu.

Bydd y digwyddiad peilot cyntaf yn cael ei gynnal fel rhith achlysur ar 1 Ebrill 2022 a’r nod yw:

  • arddangos a dathlu gwaith y rhaglen
  • darparu diweddariad ar waith cyfoes a thrafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • darparu fforwm i rannu gwybodaeth, syniadau, profiad ac ymarfer ar draws y pedair gwlad
  • bwrw ymlaen â'r gwaith gyda mewnbwn gan randdeiliaid allweddol
  • rhoi cyfle i ofyn cwestiynau.

 

Pwy all fynychu'r achlysur?

Mae'r achlysur yn agored i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac i sefydliadau a grwpiau cysylltiedig o fewn y sector iechyd a gofal.

Os ydych yn gweithio o fewn neu'n cynrychioli sefydliad o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, plîs dangoswch eich diddordeb yn yr achlysur yn y fan hon: HEIW.AllWalesNurseStaffingProgramm@wales.nhs.uk Ar ôl gwneud cais bydd yn cael ei ystyried ac os byddwch yn llwyddiannus anfonir dolen unigryw atoch i fynychu'r achlysur.

 

Diolch

Hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch i chi am eich diddordeb yn yr Achlysur Rhanddeiliaid Rhaglen Staff Nyrsio,Cymru-Gyfan ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Raglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan neu'r achlysur i randdeiliaid, cysylltwch â Joanna Doyle (Pennaeth Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan) HEIW.AllWalesNurseStaffingProgramm@wales.nhs.