Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Hyfforddi Endosgopyddion Clinigol GIG Cymru

Fel rhan o’r Grwpiau Rheoli Hyfforddiant Endoscopy sy’n cefnogi Rhaglen Endosgopi Cenedlaethol rydym yn awyddus i benodi ein pedwerydd garfan o Endosgopyddion Clinigol dan Hyfforddiant brwdfrydig ac ymroddedig i ddechrau ar y rhaglen hyfforddi nesaf ym mis Mawrth 2023.  Mae ffurflen gais ynghlwm. Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â: HEIW.ETMG@wales.nhs.uk

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan gydweithwyr sydd ar hyn o bryd yn gweithio mewn Byrddau Iechyd sy’n teimlo y byddai hwn yn gyfle iddynt i ddatblygu eu sgiliau o fewn y Rhaglen Genedlaethol hon.

At bwy mae'r rhaglen wedi'i hanelu?

 Mae'r llwybr hyfforddi hwn yn benodol ar gyfer endosgopyddion anfeddygol, wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer a chefnogi'r hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen ar y rhai nad ydynt wedi cwblhau gradd feddygol

 

Faint o amser fydd yr hyfforddiant yn ei gymryd?

 Mae'r rhaglen yn rhaglen ddysgu gyfun. Disgwylir i hyfforddiant ‘GI’ Uchaf gymryd hyd at flwyddyn i'w gwblhau, Colonosgopi hyd at 2 flynedd. 

 

Pa ddarpariaeth a chytundeb sydd angen i mi ei gael?

Bydd angen i hyfforddeion gael eu cefnogi gan eu Bwrdd Iechyd cynhaliol (BI) i gwblhau Ardystiad JAG o fewn yr amserlenni uchod gydag o leiaf dwy restr hyfforddi bwrpasol yr wythnos.

Er mwyn gwneud cais am y rhaglen mae'n RHAID i bob hyfforddai gael cefnogaeth o'u gwasanaeth.

 

Pa rôl y byddaf yn gallu ei chyflawni ar ôl imi gwblhau'r rhaglen hyfforddi hon?

 Rhaglen hyfforddi Genedlaethol yw hon, sy'n arwain at ymarfer clinigol datblygedig annibynnol y disgwylir iddo gynyddu'r capasiti ar gyfer gwasanaethau endosgopi yng Nghymru.

 

Beth mae'r broses ymgeisio yn ei olygu?

Mae tri cham i'r broses ymgeisio:

  1. Cyflwyno ffurflen cais - rhaid bod gan hyn dystiolaeth o gwblhau cwrs academaidd lefel 6 o leiaf a datganiad sy'n alinio'ch uchelgais â gofynion gweithlu eich uned endosgopi, gan gynnwys yr holl lofnodion cyflogwr perthnasol
  2. Cyfweliadau – Dydd Iau 7 Mehefin 2023 (yn WIMAT)
  3. Sesiwn sefydlu – Cyfarfod 1 awr o hyd dros Teams yn cychwyn wythnos yn dechrau 3 Gorffennaf 2023

Dylech gyflwyno eich ffurflen cais i HEIW.ETMG@wales.nhs.uk  erbyn Dydd Gwener 26 Mai 2023.

Mae'r wythnos addysgu academaidd gyntaf wedi'i threfnu ar gyfer dydd Llun 4 Medi i ddydd Mercher 6 Medi 2023