Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cleifion Fewnol Iechyd Meddwl yn addasu i weddu i'r rhai sydd ei angen fwyaf

James Robinson, Arweinydd Prosiect Iechyd Meddwl

Rwy'n falch iawn o ddweud bod y llif gwaith iechyd meddwl wedi codi momentwm go iawn yn ystod y chwe mis diwethaf.

Mae'r ffrwd waith yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd ledled Cymru. Maent yn dilyn dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i greu dulliau, offer a thechnegau cadarn a ddefnyddir i bennu lefelau staff nyrsio priodol mewn wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl. Bydd yr offer a ddyfeisiwyd gan y ffrwd waith yn galluogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i gyfrifo'r nifer a'r cymysgedd cywir o sgiliau staff nyrsio sydd eu hangen i ddarparu gofal effeithiol i gleifion ar wardiau iechyd meddwl cleifion mewnol, yn ogystal â chyfrannu'n gyffredinol at Gymru Iachach.

Dros y misoedd diwethaf, mae cwmpas y rhaglen ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl wedi cael ei adolygu a'i fireinio. Roedd hyn yn rhannol oherwydd cymhlethdod ac amrywiaeth eang wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl ac anghenion pobl sydd eu hangen. Felly, roedd yn rhesymol ailffocysu cwmpas y rhaglen i sicrhau bod yr offer a gynhyrchir yn addas at y diben.

Er mwyn mireinio'r rhaglen, roedd yn hanfodol categoreiddio wardiau cleifion mewnol a oedd â swyddogaethau tebyg. Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu ac arweiniodd at y ffrwd waith yn diffinio meini prawf cynhwysiant "wardiau derbyn a thriniaeth".

Wardiau derbyn a thriniaeth fel arfer yw'r pwynt mynediad cyntaf i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol o 16 oed ac yn hŷn. Nid ar chwarae bach oedd y penderfyniad i fireinio cwmpas y rhaglen. Fodd bynnag, deallwn y bydd y gwaith a wneir yn yr ardaloedd derbyn a thriniaeth yn cael ei gymhwyso'n ehangach i gyfleusterau iechyd meddwl eraill. Yn hyn o beth, mae'r broses hon yn galluogi'r rhaglen i ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid ac i sicrhau cyd-gynhyrchu â nyrsys iechyd meddwl ledled Cymru, gan wneud i'r gwasanaethau hyn weithio fel un system

Yr wyf yn falch o adrodd bod fersiwn arall o'r egwyddorion staff nyrsio dros dro sy'n benodol i wardiau derbyn a thriniaeth wedi'u drafftio. Cytunwyd ar y drafft hwn gan y grŵp staff nyrsio iechyd meddwl a grŵp staff nyrsio Cymru gyfan. Y camau nesaf fydd i'r Byrddau Iechyd gynnal asesiadau effaith. Bydd yr asesiadau hyn yn archwilio effaith ariannol ac adnoddau’r egwyddorion. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi Byrddau Iechyd i ddatblygu eu cynlluniau gweithlu a'u monitro yn erbyn cydymffurfiaeth â'r egwyddorion. Rwy'n hynod falch o'r gwaith a wnaed hyd yma. Mae'r egwyddorion staff nyrsio dros dro ar gyfer wardiau derbyn a thriniaeth yn wirioneddol flaengar a byddant yn cael effaith sylweddol ar brofiad cleifion, ansawdd y gofal a lles ein nyrs.

Dyfeisiwyd y canllaw lefelau gofal Cymru ar gyfer iechyd meddwl drwy gyd-gynhyrchu â nyrsys iechyd meddwl ac maent yn parhau i gael eu datblygu. Rydym wedi cytuno ar bum thema nyrsio a byddwn yn gweithio tuag at ddatblygu disgrifyddion clinigol a lleyg trosfwaol, er mwyn paratoi ar gyfer profion peilot. Yr wyf yn hynod ddiolchgar am gyfraniad cydweithwyr nyrsio drwy gydol y broses hon. Rwy'n teimlo bod gennym amrywiaeth o offer sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ond yn berthnasol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae diffinio'r dangosyddion ansawdd sensitif i nyrsys sy'n benodol i wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl wedi bod yn gymhleth. Er mwyn deall yr anghenion unigryw yn well, cynhaliwyd dau weithdy ym mis Medi 2021 i archwilio'r defnydd o'r dangosyddion ansawdd o fewn gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn comisiynu grwpiau gorchwyl a gorffen i wneud gwaith pellach i ddiffinio cwympiadau, wlserau pwyso a gwallau meddyginiaeth. Bydd angen i'r gwaith gyd-fynd â phrosesau cadarn ar gyfer adrodd ac ymchwilio, gan sicrhau arfer safonol ar draws wardiau derbyn a thriniaeth yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr archwiliad barn proffesiynol iechyd meddwl yn ystod mis Mai 2021. Mae'r data a ddarparwyd wedi cael ei gasglu ers hynny ac mae'r Byrddau Iechyd wedi derbyn eu hadroddiadau ward. Mae'r llyfrau gwaith yn darparu gwybodaeth a data gwerthfawr i'r rhaglen, yr wyf yn gobeithio y gall y Byrddau Iechyd eu defnyddio wrth adolygu eu gofynion staff nyrsio. Rwyf wrthi'n casglu adborth gan nyrsys sydd wedi defnyddio'r canllaw ar hyn o bryd. Y camau nesaf fydd mireinio'r canllaw yn seiliedig ar eu hadborth, cyn cynnal yr archwiliad chwemisol nesaf ym mis Tachwedd 2021. Y nod yw i wardiau gael eu llyfrau gwaith pwrpasol eu hunain sydd wedi'u datblygu ochr yn ochr â rheolwyr wardiau ac uwch arweinwyr nyrsio. Dylai hyn alluogi darparu data mwy cywir, yn ogystal â mwy o sicrwydd wrth feincnodi ar draws wardiau derbyn a thriniaeth yng Nghymru 

Yn olaf, wrth i’r cyfod clo cael ei godi’n raddol, rwy'n edrych ymlaen at allu ymweld â Byrddau Iechyd a wardiau ledled Cymru a chwrdd â thimau nyrsio wyneb yn wyneb! Yn y cyfamser, cadwch yn ddiogel a diolch i chi am y gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud!

Mae rhagor o wybodaeth am y Ffrwd Waith Iechyd Meddwl ar gael ar wefan AaGIC Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan.