Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio Gwyddonwyr Dan Hyfforddiant Ar Gyfer 2020

Mae GIG Cymru yn bwriadu ymgymryd â'r Rhaglen Recriwtio Flynyddol o Wyddonydd Clinigol Dan Hyfforddiant (RGDH). Gan fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gyfrifol am addysg a hyfforddiant i ddiwallu anghenion y GIG yng Nghymru, byddwn yn hysbysebu'r swyddi.

Mae'r RGDH yn rhaglen hyfforddiant mynediad graddedig sy'n arwain at rolau uwch wyddonwyr. Bydd hyfforddeion yr RGDH yn cael eu cyflogi gan sefydliad GIG tra pery eu hyfforddiant, ac yn cael cyflog. Rhaglen hyfforddi tair blynedd, lawn amser yw'r RGDH, sy'n cynnwys dysgu seiliedig ar waith ac academaidd. Mae hefyd yn cynnwys gradd Meistr wedi ei chomisiynu'n benodol a'i hachredu yn yr ardal o'u dewis. Bydd hyfforddiant yn y gweithle yn cael ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod y flwyddyn gyntaf, cyn arbenigo ym maes dewis yr hyfforddai yn ystod y ddwy flynedd olaf o hyfforddiant.

Bydd y recriwtio eleni yn cynnwys y swyddi canlynol:

Arbenigedd Nifer o Swyddi Bwrdd Iechyd Dyddiad y Cyfweliad
Awdioleg 2 BIP Bae Abertawe 16-17/03/20
Awdioleg 2 BIP Betsi Cadwaladr 16-17/03/20
Awdioleg 1 BIP Caerdydd a'r Fro 16-17/03/20
Awdioleg 1 BIP Aneurin Bevan 16-17/03/20
Genomeg Canser 1 BIP Caerdydd a'r Fro 10/03/20
Gwyddor y Galon 1 BIP Caerdydd a'r Fro 10-11/03/20
Gwyddor y Galon 1 BIP Cwm Taf Morgannwg 10-11/03/20
Gwyddor y Galon 1 BIP Hywel Dda 10-11/03/20
Gwyddoniaeth Cysgu ac Anadlu 1 BIP Cwm Taf Morgannwg 10-11/03/20
Biocemeg Glinigol 1 BIP Betsi Cadwaladr 11-12/03/20
Biocemeg Glinigol 1 BIP Caerdydd a'r Fro 11-12/03/20
Biocemeg Glinigol 1 BIP Bae Abertawe 11-12/03/20
Genomeg 1 BIP Caerdydd a'r Fro 10/03/20
Gwybodeg Iechyd 1 BIP Caerdydd a'r Fro 18/03/20
Ffiseg Feddygol 2 Ymddiriedolaeth GIG Felindre 11-12/03/20
Ffiseg Feddygol 3 BIP Bae Abertawe 11-12/03/20
Ffiseg Feddygol 1 BIP Betsi Cadwaladr 11-12/03/20
Ffiseg Feddygol 1 BIP Caerdydd a'r Fro 11-12/03/20
Microbioleg 2 Iechyd Cyhoeddus Cymru 16/03/20
Gwyddor Adlunio 1 BIP Bae Abertawe 18/03//20
Peirianneg Adsefydlu 1 BIP Bae Abertawe 17/03/20
Peirianneg Adsefydlu 1 BIP Betsi Cadwaladr 17/03/20
Gwyddorau Atgenhedlu 1 BIP Bae Abertawe 17/03/20
Cynghorwr Genomeg Dan Hyfforddiant 1 BIP Caerdydd a'r Fro 10/03/20

 

Mae ceisiadau nawr ar agor gyda chyfweliadau'n dechrau ar 10fed Mawrth 2020. Gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at 2 swydd yn unig a bydd pob cais yn destun proses llunio rhestr fer. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd, yn bersonol, i gyfweliad panel yn y pencadlys Addysg a Gwella Iechyd Cymru: Tŷ dysgu, Cefn Coed Nantgarw, CF15 7QQ. Ewch i www.jobs.nhs.uk unwaith y bydd y swyddi hyn yn fyw a chwilio am 'HEIW' yn y bocs 'Allweddeiriau neu Gyfeirnod Swydd'.

Mae rhagor o wybodaeth am y RGDH i'w gweld ar y ddogfen atodedig yma.