Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect QIST Arwain Gwelliant yn Niogelwch Cleifion

Mae Kelly Jones yn fferyllydd a gwblhaodd ei hyfforddiant IQT Arian gyda'r Tîm QIST ym mis Ebrill 2019. Aeth Kelly yn ei blaen wedyn i ymgymryd â phrosiect,“Gwella'r broses o gysoni meddyginiaethau cleifion dementia yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot”, a gyflwynwyd i'w marcio a'i hachredu ym mis Hydref 2020. Cwblhawyd y gwaith marcio a dyfarnwyd achrediad ym mis Mai 2021, gydag adborth rhagorol yn cynnwys argymhelliad y dylid rhannu'r prosiect yn eang ledled Cymru oblegid y materion diogelwch cleifion yr aethpwyd i’r afael â hwy. Awgrymwyd hefyd y gellid ei chyflwyno ar gyfer Gwobrau'r GIG yn y Categori Diogelwch Cleifion.

Yma, mae Kelly yn sôn am ei phrosiect ac yn rhannu ei phrofiad o ymgymryd ag IQT Arian gyda'r Tîm QIST:

"Yn dilyn aildrefnu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn 2012, bu i’r adran fferylliaeth groesawu llawer o newidiadau ac mae wedi esblygu ochr yn ochr ag adrannau eraill yn yr ysbyty i ddarparu'r gofal gorau i gleifion â dementia. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'r ddemograffeg a welir yn YCPT yn gleifion mwy eiddil gydag anghenion mwy cymhleth sy’n cymryd nifer uwch o feddyginiaethau. Mae cysoni meddyginiaethau yn YCPT yn bendant wedi dod yn broses fwy cymhleth a hirach o ganlyniad i gleifion yn methu â chadarnhau eu hanes meddyginiaeth yn gywir, a rhestrau meddyginiaeth gan feddygfeydd yn anghyflawn (cleifion yn derbyn meddyginiaethau ychwanegol o glinigau arbenigol). Y darlun yr oeddem yn ei weld yn YCPT oedd meddyginiaeth gwrth-ddementia yn cael ei methu, yn ystod y gwaith clercio cychwynnol, a chleifion dementia wedi’u trosglwyddo yn ymgyflwyno â symptomau a oedd yn gwaethygu, mwy o ddeliriwm a phroblemau ymddygiadol yr oedd angen eu cyfeirio ar frys at dîm iechyd meddwl yr henoed. Felly, gallai'r broses o gysoni meddyginiaethau ar y pryd fod yn aneffeithlon ac o bosibl yn rhoi cleifion dementia mewn perygl o beidio â chael y feddyginiaeth gywir ar yr adeg gywir.

Roedd mynychu Rhaglen Weithdy IQT Arian Fferyllfa QIST, dan arweiniad Dr Gethin Pugh (Arweinydd Rhaglen QIST AaGIC), yn amhrisiadwy ac fe ddangosodd i mi sut i ddefnyddio offer penodol i alluogi adnabod a chwmpasu'r broblem a drafodwyd a'r ffordd orau o ddynodi rhai rhanddeiliaid i ganiatáu gweithredu profion newid bychain drwy gyfres o gylchoedd PDSA er mwyn gallu gwella ffrydiau a systemau gwaith. Roedd y cwrs yn atgyfnerthu pwysigrwydd gwaith tîm i sicrhau newid er mwyn gwella gofal claf-ganolog.

Prif nod ein prosiect IQT oedd symleiddio cysoniad meddyginiaethau, atal meddyginiaethau gwrth-ddementia rhag cael eu methu yn ystod y clercio cychwynnol a lleihau'r amser a gymerid i adalw hanes meddyginiaeth cywir. Roedd y fframwaith IQT yn greiddiol i’n dull gweithredu nid yn unig fel canllaw i helpu i nodi diffygion o fewn ein system ond i ddynodi atebion posibl drwy gyfathrebu a gwaith tîm.

Mae canfyddiadau'r prosiect gwella ansawdd hwn wedi bod yn gadarnhaol, ac rydym wedi cyrraedd ein nod o leihau'r amser a gymerir i adalw’r wybodaeth am feddyginiaethau gwrth-ddementia i 50%.  Mae ein tîm yn parhau i hybu’r prosiect hwn i leihau nifer y meddyginiaethau gwrth-ddementia sy’n cael eu methu i sero, ac wedi cael llwyddiant dros dro o ran cael mynediad darllen-yn-unig i'r gronfa ddata gwrth-ddementia newydd ond, ar hyn o bryd, maent yn aros am Ofal Sylfaenol a'r cynnig i feddygon teulu weithredu rhagnodiadau yn unol ag argymhellion arbenigol i sicrhau bod gwasanaeth diogel, cynaliadwy a chadarn yn cael ei sefydlu.

Hoffwn ddiolch i Dr Gethin Pugh am ei anogaeth, ei ddysgeidiaeth a'i arbenigedd aruthrol. Roedd ei fewnbwn yn amhrisiadwy - y prif sbardun i weld newid yn cael ei wireddu”.

I gael gwybodaeth am y rhaglen QIST neu Wobr Gwella AaGIC, cysylltwch â'r tîm QIST ar: HEIW.QIST@wales.nhs.uk