Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn derbyn Gwobr Traweffaith Cymdeithas Atal Heintiau Aur

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), corff gweithlu strategol GIG Cymru, wedi derbyn Gwobr Effaith Cymdeithas Atal Heintiau Aur (IPS) am ei rhaglen atal a rheoli heintiau (IPC).

Mae amddiffyn cleifion a staff drwy leihau'r risg a lledaeniad heintiau mewn ysbytai a'r gymuned yn hynod bwysig. Mae gan bob bwrdd iechyd dimau IPC arbenigol a'u rôl yw helpu a chefnogi cydweithwyr, cleifion a chymunedau i leihau'r risg a lledaeniad heintiau.

Creodd y rhaglen, a oedd yn cynnwys partneriaid o bob rhan o GIG Cymru ac o'r byd addysg, amrywiaeth o ddulliau i ddatblygu a chynyddu arbenigedd y timau hyn ymhellach i gefnogi cydweithwyr a gwella gofal cleifion.

Mae categori Talent Meithrin IPC yn cydnabod y rhai sy'n cefnogi datblygiad gweithlu IPC y dyfodol – sy'n cyd-fynd â gweledigaeth gyffredinol AaGIC i drawsnewid gweithlu GIG Cymru wrth symud ymlaen.

Derbyniodd Lisa Duffy, Rheolwr Rhaglen IPC yn AaGIC, a arweiniodd y gwaith hwn tra ar secondiad yn AaGIC, y wobr ar ran pawb a oedd yn rhan o Seremoni Wobrwyo IPC Impact.

Dywedodd Lisa: "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn Gwobr IPS Aur am feithrin talent IPC.

"Roedd y rhaglen yn ymdrech gydweithredol gyflym ei naws rhwng AaGIC, arbenigwyr IPC a phartneriaid o bob rhan o Gymru.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen, roedd eu cyfraniadau i'r rhaglen yn ganolog."

Mae'r seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Atal Heintiau Rhyngwladol, yn cydnabod ac yn dathlu mentrau sy'n dangos rhagoriaeth, arloesedd neu welliant mewn ymarfer IPC, darparu gwasanaethau neu addysg.

Dywedodd Charlette Middlemiss, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Trawsnewid y Gweithlu yn AaGIC:

"Mae'n wych i bawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith sylweddol a wnaed fel rhan o'r Rhaglen Atal a Rheoli Heintiau AaGIC.

"Yn AaGIC, rydym wedi ymrwymo i hyfforddiant, addysg a datblygiad gweithlu'r GIG presennol a'r dyfodol i allu darparu gofal o ansawdd uchel. Rydym yn hyderus y bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion drwy ddatblygu'r gweithlu arbenigol atal a rheoli heintiau yng Nghymru ymhellach.

"Rydym hefyd yn falch iawn o weld yr offer sydd wedi'i greu wedi cael ei gydnabod gan gydweithwyr y tu allan i Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at rannu ein gwaith gyda nhw.”

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a fu'n gadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen, ac a dderbyniodd y wobr gyda Lisa, am y gwaith:

"Mae'r gydnabyddiaeth a gafwyd yng nghynhadledd genedlaethol IPS yn dyst i waith caled y timau ar draws Cymru ac mae'n haeddiannol iawn. Roeddwn yn falch iawn o allu chwarae rhan arweiniol yn y darn pwysig hwn o waith a ddatblygwyd ar y cyd â'r gymuned o ymarferwyr atal heintiau yng Nghymru gan hwyluso drwy ymrwymiad AaGIC. Dyma adnodd rhyngweithiol sydd ar gael ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sydd hefyd yn rhoi llwyfan i ymarferwyr arbenigol ar gyfer y dyfodol."

Mae lleihau'r risg a lledaeniad heintiau yn hanfodol er mwyn darparu gofal diogel i gleifion o ansawdd uchel. Mae AaGIC yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau datblygiad parhaus dulliau atal a rheoli heintiau effeithiol yng Nghymru.

Mae llwyddiant a chanlyniadau'r rhaglen Atal a Rheoli Heintiau yn cynnwys:

  • Dadansoddi strwythur presennol timau gweithlu IPC mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru at ddibenion meincnodi.
  • Crëwyd rhestr hygyrch o gyfleoedd addysg, datblygu a hyfforddi arbenigol heintiau, atal a rheoli cyfredol sydd ar gael ar draws GIG Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i aelodau'r gweithlu IPC fanteisio ar gyfleoedd datblygu a hyfforddi, a fydd yn eu tro yn eu galluogi i barhau i sicrhau gofal o ansawdd uchel i gleifion.
  • Adolygu'r modd y cyflwynir addysg atal a rheoli heintiau ar draws sefydliad addysg uwch (AAU) yng Nghymru.
  • Datblygu adnodd digidol arloesol a fframwaith Addysg, Datblygu a Dysgu newydd ledled Cymru, wedi'i gynhyrchu'n benodol ar gyfer IPC yng Nghymru. Bydd yr adnodd yn cynorthwyo arbenigwyr IPC i fyfyrio ar eu lefel bresennol o ymarfer a nodi meysydd lle gallant elwa o ddysgu, hyfforddi a datblygu pellach, i wella sgiliau o fewn eu rôl. Mae'r fframwaith yn tynnu sylw at feysydd penodol o hyfforddiant, dysgu a datblygu a fydd yn galluogi gweithlu'r IPC i adeiladu ar gymwyseddau a nodwyd a sy'n berthnasol i fodloni anghenion gweithlu IPC hanfodol  ar gyfer y pum mlynedd nesaf yng Nghymru. Gellir gweld y fframwaith yma.
  • Darparu argymhellion cadarn, a gynhyrchwyd o ymgysylltu â rhanddeiliaid a dadansoddi data gweithlu IPC trylwyr, i lywio datblygiad a gwelliant gweithlu IPC yn y dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, Lisa Duffy, Rheolwr Atal a Rheoli Heintiau HEIW (canol) a Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Chadeirydd grŵp gorchwyl a gorffen y prosiect (chwith) yn cael gwobr gyda chydweithwyr.