Neidio i'r prif gynnwy

Profiadau byw wrth wraidd trawsnewid iechyd meddwl yng Nghymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Pherfformiad a Gwelliant y GIG (GIG P&I) yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer profiad byw o fewn y model newydd o ofal ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru.

Fel rhan o'r camau cychwynnol o ddatblygu cynlluniau, hwylusodd AaGIC a GIG P&I eu digwyddiad rhanddeiliaid cyntaf yn ddiweddar, a welodd dros 60 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gweithwyr cymheiriaid a phobl â phrofiad byw yn dod at ei gilydd o bob cwr o Gymru i drafod pwysigrwydd ac effaith gadarnhaol profiad byw a'r gweithlu cymorth cymheiriaid cynyddol yn ei gael ar ofal cleifion.

Mae profiad byw yn cyfeirio at brofiadau personol unigolion sydd wedi wynebu heriau iechyd meddwl, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gefnogi eraill. Mae cymorth cymheiriaid iechyd meddwl yn cynnwys unigolion sydd â phrofiad byw yn defnyddio eu gwybodaeth a'u mewnwelediadau i helpu i lunio a darparu gwasanaethau cleifion, i gefnogi eraill sy'n wynebu heriau tebyg.

Mae'r gweithlu cymorth cymheiriaid yn chwarae rhan hanfodol wrth bontio'r bwlch a meithrin ymddiriedaeth rhwng gweithwyr proffesiynol a'r bobl maen nhw'n eu cefnogi. Maent yn gallu darparu gofal sy'n bersonol, tosturiol a pherthnasol, sy'n helpu unigolion eraill i deimlo'n fwy cyfforddus yn trafod eu heriau iechyd meddwl eu hunain ac yn cynyddu eu hyder i geisio cefnogaeth.

Roedd y digwyddiad rhanddeiliaid yn llawn trafodaeth, mewnwelediad ac yn cynrychioli parhad taith effeithiol mewn gofal iechyd meddwl yng Nghymru.

Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sgyrsiau am yr effaith gadarnhaol y mae cymorth gan gymheiriaid wedi'i chael ar eu gwasanaethau iechyd meddwl ac ansawdd y gofal. Roedd y trafodaethau nid yn unig yn agoriad llygaid, ond roeddent hefyd yn hynod ysbrydoledig. Fe wnaeth arweinwyr cymorth cymheiriaid gyffwrdd yn ddewr â'u teithiau eu hunain o iechyd meddwl a rhoi enghreifftiau o sut mae hyn wedi eu helpu i ddarparu gofal tosturiol a thrawsnewidiol i gleifion.

Roedd adborth gan weithwyr cymorth cymheiriaid a wahoddwyd i'r digwyddiad yn gadarnhaol, gydag un unigolyn yn rhannu ei fod "yn gyfle gwych iawn i gwrdd a chyfnewid straeon a syniadau - roeddem yn arbennig o falch o weld sut roedd y sgwrs wedi symud ymlaen ers y digwyddiadau ymgysylltu'r llynedd."

 

Y model gofal newydd

Yng Nghymru, mae rolau profiad byw a chymorth gan gymheiriaid wedi cael eu gweithredu ers dros 10 mlynedd, fodd bynnag, nid yw pob bwrdd iechyd yn cynnig y gwasanaethau hyn ac nid oes dull cenedlaethol o lywodraethu.

Cynigiodd AaGIC a NHS P&I newid hyn drwy ddatblygu cynllun strategol ar gyfer profiad byw. Mae'r ffocws ar ansawdd a chydraddoldeb gofal ledled Cymru a bydd profiadau byw wrth wraidd hynny.

Nid yw'r model newydd yn ymwneud â gwasanaethau yn unig, mae'n ymwneud â'r gweithlu, diwylliannau tosturiol, ac arweinyddiaeth. Mae pwyslais gwirioneddol wedi'i roi ar ddatblygu'r gweithlu, gyda lansio mentrau allweddol gan gynnwys canolfannau arweinyddiaeth a goruchwylio ac ystod o ganllawiau i gefnogi'r gweithlu profiad byw.

Mae lles staff a gofal cleifion yn mynd law yn llaw ac ers i'r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl ddod ar waith, mae Cymru wedi gweld dros 170 yn fwy o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi ym maes iechyd meddwl ochr yn ochr â thystiolaeth ein bod yn cadw mwy o staff yn ein gweithlu seiciatreg a nyrsio nag erioed o'r blaen.

Mae hyn yn dyst i'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud ar draws iechyd meddwl yng Nghymru, ond mae'r galw am wasanaethau'n heriol ac yn cynyddu'n barhaus.

Mae'r model newydd yn cynnig dull mwy person-ganolog o ofal iechyd meddwl, gan roi sylw at gryfderau, perthnasoedd a'u cymunedau'r unigolyn. Bydd y model yn fwy hyblyg, gan ddarparu mynediad agored i wasanaethau iechyd meddwl, ac yn bwysicaf oll, bydd yn cynnig tegwch gofal ledled Cymru.

Mae'r cynllun yn dal i fod yn y camau cynnar ac mae llawer o waith i'w wneud, ond mae model gofal tebyg wedi'i weithredu yng Nghanada, 'Stepped Care', ac mae'r data yn hynod gadarnhaol gydag amseroedd aros wedi'u lleihau'n sylweddol ac ansawdd gofal cleifion wedi gwella.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Dr Chris O'Connor, Arweinydd Clinigol y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, Perfformiad a Gwelliant y GIG:

"Roedd yn bleser bod yn rhan o'r digwyddiad. Rydym yn gwybod y gall cael y cyfle i dderbyn cefnogaeth gan gyfoedion sydd â phrofiad byw o anawsterau iechyd meddwl fod yn hynod o ddefnyddiol ac yn gallu newid bywydau. Mae gennym gyfle gwych i adeiladu ar rywfaint o'r arfer rhagorol sydd eisoes ar waith er mwyn sicrhau bod cymorth gan gymheiriaid yn rhan sylfaenol o'r model cymorth iechyd meddwl mynediad agored ledled Cymru gyfan." 

Nod AaGIC a P&I y GIG yw cwblhau'r cynllun strategol ar gyfer profiad byw erbyn 31 Mawrth 2026.

Ewch i wefan AaGIC i gael y wybodaeth ddiweddaraf a dysgu mwy am y gwaith ehangach ar y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.