Neidio i'r prif gynnwy

Prifysgol yn rhannu ffyrdd gwobrwyol o gefnogi darpar famau

Capsiwn: Yn y llun, wele Dr Sarah Norris yn y canol gyda Rebecca Bennett, noddwr gwobr Johnson’s a’r gwesteiwr Alex Jones, cyflwynydd The One Show ar y BBC.

Mae Canolfan Bydwreigiaeth a Rhianta Prifysgol Abertawe wedi bod mor llwyddiannus, mae'r tîm y tu ôl iddi yn mynd i rannu eu profiadau gyda chydweithwyr ar draws Cymru.

Mae'r Ganolfan, yn Academi Iechyd a Llesiant y Brifysgol, yn cynnig gofal a chymorth cyn geni ac ôl-enedigol am ddim a ddarperir gan fyfyrwyr bydwreigiaeth. Erbyn hyn mae ei gwaith wedi helpu Dr Sarah Norris, Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe a Bydwraig Arweiniol dros Addysg, ennill anrhydedd cenedlaethol uchaf.

Mae Sarah, sy'n arwain y tîm o gydweithwyr addysg bydwreigiaeth a lansiodd y ganolfan, newydd dderbyn y Wobr Rhagoriaeth mewn Addysg Bydwreigiaeth yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) eleni.

Mae'r wobr, a gyflwynwyd gan y cyflwynydd teledu Alex Jones mewn seremoni yn Llundain, yn cydnabod brwdfrydedd parhaus Sarah a'i chefnogaeth ymarferol i'r genhedlaeth nesaf o fydwragedd.

Mae'r Ganolfan nid yn unig yn cynnig cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr ond mae hefyd yn fan lle gall menywod dderbyn gofal a chymorth yn y gymuned cyn ac ar ôl eu beichiogrwydd.

Mae bydwragedd sy'n fyfyrwyr dan oruchwyliaeth Sarah a'i chydweithwyr yn cynnig cymorth cyn-geni ac ôl-enedigol gan gynnwys mentrau fel grwpiau cymorth bwydo ar y fron, technegau hypnogeni a grwpiau cymorth ôl-enedigol i famau a theuluoedd yn yr ardal gyfagos. Mae gan yr Academi hefyd glinig datrys trawma genedigaethau i gefnogi menywod.

Dywedodd Sarah: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn fy mod wedi ennill y wobr hon ond mae'n ganlyniad ymdrech tîm gwych. Mae credyd am lwyddiant y Ganolfan yn perthyn i bawb sy'n rhan o'r prosiect.”

Un o’r myfyrwyr sydd wedi elw yw Ana Peachey. Mae hi’n disgrifio gwobr Sarah fel un haeddiannol iawn.

Dywedodd: “Mae'r Academi Iechyd a Llesiant yn gyfleuster anhygoel ac yn rhan ddeniadol o astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

“Rydym mor ffodus ein bod wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau cyn geni, grwpiau bwydo ar y fron a dosbarthiadau hypnogeni ac rydym yn dysgu cymaint wrth wneud hynny - gan y darlithwyr a'r merched sy'n mynychu.”

Mae Sarah hefyd wedi cael ei llongyfarch gan Addysg a Gwell Iechyd Cymru, y corff sydd â rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant a datblygiad gweithlu gofal iechyd Cymru.

Meddai ei Gyfarwyddwr Nyrsio, Stephen Griffiths: “Mae'n hyfryd gweld gwaith safon uchel addysgwyr gofal iechyd yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Yr angerdd ac ymrwymiad gan Sarah a'i chydweithwyr i addysgu cenedlaethau o fydwragedd yn y dyfodol sy'n gwneud Cymru yn lle gwirioneddol wych i hyfforddi a gweithio.”

Ychwanegodd Gill Walton, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Coleg Brenhinol y Bydwragedd: “Mae hyn yn enghraifft wych o addysg bydwreigiaeth arloesol ar waith. Yn bwysig, mae nid yn unig yn dod â manteision i'r myfyrwyr a'r darlithwyr, ond hefyd i'r menywod a'u teuluoedd. Gwnaed y prosiect hefyd mewn partneriaeth â rhannau eraill o'r gymuned iechyd gan ei wneud yn enghraifft wych o gydweithio hefyd.”

Dywedodd Sarah ei bod bellach yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw: “Rydym am rannu ein profiadau gyda'n cydweithwyr bydwreigiaeth ar draws Cymru. Byddem wrth ein bodd yn gallu eu hannog i ddechrau prosiectau sy'n cynnig yr un math o gefnogaeth yn eu cymunedau hwy hefyd.”