Neidio i'r prif gynnwy

Polisi ad-dalu wedi'i ddiweddaru wedi'i gytuno ar gyfer hyfforddeion

 Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn cydweithrediad â BMA Cymru Wales, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a chynrychiolwyr dan hyfforddiant wedi diweddaru'r polisi ad-dalu ar gyfer meddygon a deintyddion iau yng Nghymru.

Cynlluniwyd y polisi yn wreiddiol i ddiogelu meddygon iau rhag ysgwyddo'r baich ariannol o deithio pellteroedd ychwanegol, neu adleoli'n gyfan gwbl, o ganlyniad i'w cylchdroadau i weithleoedd newydd ar gyfer eu hyfforddiant, yn aml ar draul mawr iddynt hwy eu hunain.

Mae diweddariad y polisi yn ei gwneud yn haws i feddygon iau hawlio treuliau, gyda llai o faich gweinyddol a phroses dryloyw ar gyfer apelio yn erbyn hawliadau a wrthodwyd. Bydd gan yr hyfforddeion hefyd fwy o ryddid i hawlio costau teithio tuag at ymweld â'u cartref parhaol os ydynt wedi'u hadleoli dros dro ac wrth adleoli hyfforddeion sy'n brynwyr am y tro cyntaf, yn gallu hawlio ffioedd ychwanegol sy'n gysylltiedig â phrynu eu heiddo.

Mae AaGIC, NWSSP, BMA Cymru Wales a chynrychiolwyr dan hyfforddiant i gyd wedi ymrwymo i adolygu'r polisi newydd erbyn Awst 2020. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw'r lwfans presennol yn ddigonol i ddiwallu anghenion adleoli ac ystyried dichonoldeb hyfforddeion drwy ddefnyddio'r lwfans nas defnyddiwyd o'r flwyddyn flaenorol.

Wrth sôn am y polisi diweddaraf, dywedodd Dr Josie Cheetham, Cadeirydd Pwyllgor meddygon iau Cymru (WJDC):

"Mae WJDC yn croesawu'r newidiadau cadarnhaol ar gyfer hyfforddeion yn y polisi newydd. Mae meddygon iau yng Nghymru yn gweithio'n galed ac yn hyfforddi'n galed, tra'n ymdrechu i sicrhau eu bod yn cynnal bywydau cyfoethog y tu allan i ofal iechyd.

"Mae gweithredu'r polisi newydd hwn yn gam pwysig wrth gydnabod a lleddfu baich amser gweinyddol a goblygiadau ariannol y mae hyfforddeion yn aml yn eu hwynebu wrth geisio cwrdd â gofynion cylchol rhaglenni hyfforddi

"Mae'r WJDC yn edrych ymlaen at adolygiad y flwyddyn nesaf o'r polisi, i fynd hyd yn oed ymhellach i hyrwyddo lles, a lleihau effaith gofynion adleoli, ar hyfforddeion yng Nghymru.

"Byddwn yn annog yr holl hyfforddeion yng Nghymru i ymgyfarwyddo â'r polisi newydd, ei ddefnyddio, a darparu adborth WJDC ac AaGIC."

Dywedodd Yr Athro Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC:

“Mae diwygio'r polisi hwn wedi bod yn flaenoriaeth i AaGIC erioed. Mae'n bwysig iawn i hyfforddeion deimlo eu bod yn cael cefnogaeth tra'n hyfforddi gyda ni yng Nghymru.

Mae'r polisi diwygiedig hwn, a gefnogwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, wedi'i gynllunio'n benodol i helpu ein hyfforddeion i gael gafael ar eu treuliau adleoli yn hawdd. Byddwn yn monitro pa mor dda y mae'n gweithio dros y deuddeg mis nesaf gyda'r bwriad o wneud newidiadau pellach. ”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

  1. Roedd yr hen bolisi teithio ac adleoli yn gorfodi hyfforddeion i gael tri dyfynbris gan gwmnïau adleoli cyn dewis opsiwn ac ad-dalu costau teithio ar gyfer nifer penodol o dripiau adref os ydynt yn byw mewn llety dros dro.
     
  2. Bydd meddygon iau yn gallu ôl-hawlio ar gyfer y polisiau hyn o 1 Awst 2019.
     
  3. Gellir gweld y polisi yma.