Mae llwyfan ar-lein arloesol, cwbl ddwyieithog sy'n arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru newydd gael ei lansio.
Ar hyn o bryd, mae Tregyrfa, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn targedu dysgwyr a phobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed, ond bydd yn ehangu i apelio i bob oed wrth iddo ddatblygu.
Gall ymwelwyr â Thregyrfa lywio drwy'r pentref rhithwir a mynd i mewn i adeiladau amrywiol. O fewn y rhain gallant gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal, cael gafael ar adnoddau, gwylio fideos a darllen blogiau i gael cipolwg ar sut beth yw gweithio o fewn y GIG a gwasanaethau iechyd a gofal ehangach yng Nghymru.
Gan y gall ystyried opsiynau gyrfa fod yn broses frawychus yn aml, nod y prosiect yw gwneud gwybodaeth mor hawdd ei defnyddio â phosibl.
Gyda mwy na 350 o rolau gwahanol ar gael, mae gan iechyd a gofal rywbeth i'w gynnig ar bob cam o yrfa rhywun – yn enwedig os nad oeddent ond wedi meddwl am y rolau mwy amlwg fel meddygaeth a nyrsio. Efallai y byddant hefyd yn tybio bod angen iddynt fynd i'r brifysgol neu gael camsyniadau am rolau a'r hyn y maent yn ei gynnwys.
Dywedodd Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad yn AaGIC: "Ein gweithlu yw ein hased mwyaf. Gall Dregyrfa helpu i ysbrydoli'r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol nesaf a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein pobl yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd gyda'r adborth o'r lansiad ac yn gyffrous i weld Tregyrfa yn datblygu wrth i ni ychwanegu mwy o feysydd proffesiynol wrth symud ymlaen."
Mae'r llwyfan rhad ac am ddim ar gael i ddysgwyr, athrawon, rhieni neu warcheidwaid, a chynghorwyr gyrfaoedd. Mae Tregyrfa yn gartref i amrywiol elfennau gwahanol o ddarparu iechyd a gofal a'r gyrfaoedd cysylltiedig sydd ar gael. Ar hyn o bryd gall ymwelwyr â'r safle archwilio chwe maes proffesiynol:
Mae adnoddau gyrfa ehangach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Sgiliau, gan gynnwys y gyfres Byddwch y Gorau y Gallech Fod, sy'n cynnwys fideos ar gyfweliadau, ac awgrymiadau ymgeisio am brifysgolion a swyddi. Ceir hefyd y Gornel Gymraeg sy'n arddangos gwerth siarad Cymraeg yn y gweithle, ar bob lefel hyfedredd.
Lansiodd Tregyrfa fis diwethaf gyda phrif siaradwyr ar gyfer pob un o'r meysydd proffesiynol, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. Cafodd bron i 3,000 o ymweliadau ar ddiwrnod y lansiad ac adborth cadarnhaol iawn.
Lansiwyd Tregyrfa yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Roedd y safle Cymraeg, Tregyrfa yn cyfrif am 27.7% o gyfanswm yr ymweliadau a dderbyniwyd yn ystod yr wythnos gyntaf.
Bydd datblygu Tregyrfa yn broses barhaus, gyda meysydd proffesiynol a gwybodaeth yn cael eu hychwanegu'n raddol. Ein nod yn y pen draw ar gyfer Tregyrfa yw dod yn llwyfan i bob oed a chaniatáu i ymwelwyr greu rhith ffurf fydd yn gallu ymweld â phob adeilad a:
Fel rhan o'r datblygiad hwn, byddwn yn cynnal sesiynau datblygu gyrfa gan gynnwys cymorth ymgeisio UCAS, sgiliau cyfweld a nodi sgiliau trosglwyddadwy. Bydd hyn yn caniatáu i ymwelwyr adeiladu portffolio o dystiolaeth y byddant yn gallu ei ddefnyddio i gefnogi ceisiadau prifysgol a swydd.