Neidio i'r prif gynnwy

Penodwyd optometryddion cyntaf yn gymrodyr hyfforddiant arweinyddiaeth glinigol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi penodi'r optometryddion cyntaf erioed i rolau Cymrodyr Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) 2020/2021.

Bydd Tim Morgan a Sarah Schumm yn ymuno â'u cyd-garfan WCLTF 2020/2021 i gymryd blwyddyn allan o gyflogaeth i gymryd rhan mewn rhaglen o hyfforddiant arweinyddiaeth, gyda'r cyfle i gysgodi arweinwyr o bob rhan o iechyd, addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Bydd rhaglen WCLTF, sy'n cael ei rhedeg gan AaGIC, gyda chyd-noddi gan Bwyllgor Optegol Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWROC) a Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gymrodyr weithio ar brosiect gofal iechyd arloesol y mae'n rhaid ei gyflawni ar ddiwedd eu blwyddyn rhaglen.

Mae Sarah, sydd wedi bod yn optometrydd cymunedol ers 16 mlynedd, yn arwain ar brosiect sy'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu, a noddir ar y cyd gan SWWROC. Dywedodd "Rwy'n hynod gyffrous o'r posibilrwydd o gael effaith gadarnhaol ar y llwybr gofal llygaid, gan gysylltu gofal llygaid sylfaenol, eilaidd a therapiwtig i greu pecyn cyflawn sydd o fudd i'r proffesiwn a'r claf'

Mae Tim yn berchen ar ymarfer lleol yng Ngogledd Cymru a bydd yn arwain ar ddiwygio gofal llygaid, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a gyd-noddodd ei brosiect. Dywedodd "Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn i archwilio agweddau ar ddylunio Gofal Llygaid Sylfaenol.

"Mae mor galonogol i'r proffesiwn, a'n cleifion, fod AaGIC a Llywodraeth Cymru yn gweld y gwerth yn y rôl hon a bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o ran gwella ansawdd."

Dywedodd yr Optometrydd Lleol Michael Charlton a Chadeirydd SWWROC "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r gwaith hwn. Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i'r proffesiwn, gan gael mynediad at yr adnoddau a'r arbenigedd yn AaGIC.

"Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r prosiect".

Mae rhaglen WCLFT bellach yn ei hwythfed mlynedd, gyda gwaith eisoes wedi'i gynllunio ar gyfer y garfan nesaf o gymrodyr clinigol o'r proffesiwn optometreg.