Neidio i'r prif gynnwy

Pam y dylech ystyried lleoliad gweithiwr gofal cymdeithasol yn ystod eich astudiaethau

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru yn annog myfyrwyr nyrsio i ystyried dod yn weithwyr gofal cymdeithasol yn ystod eu hastudiaethau.

Mae lleoliadau ar gael ar draws sefydliadau gofal cymdeithasol fel cartrefi gofal neu ofal cartref ac nid oes angen unrhyw gymwysterau ar gyfer y rôl gyda'r cyflogwr yn arwain unigolion drwy fframwaith ymsefydlu cynhwysfawr.

Nid yn unig y bydd myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr o'r diwydiant, byddant hefyd yn cael cymorth i gwblhau Gwobr Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru, sy'n galluogi unigolion i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn llwyddiannus.

Dywedodd Denise Parish, Rheolwr Contractio Addysg AaGIC: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr nyrsio gael profiad byd go iawn o weithio mewn lleoliad gofal, wrth ennill y sgiliau a fydd yn eu gweld yn ffynnu yn eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol".

Mae adborth anecdotaidd wedi dangos bod y rhai sy'n ymgymryd â lleoliadau mewn sefydliadau gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o ddychwelyd yn dilyn eu hastudiaethau.

Ychwanegodd Karen Wakelin, Rheolwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru: "Yn ystod COVID-19, gwelsom rôl amhrisiadwy ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ran cadw Cymru'n ddiogel.

"Drwy roi cyfle i'n nyrsys dan hyfforddiant gael profiad diriaethol, rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld llawer ohonynt yn parhau i weithio yn y lleoliad gofal cymdeithasol ar ôl graddio, gan sicrhau bod gan Gymru weithlu medrus iawn, sy'n gallu ateb y galw yn y dyfodol."

I'r myfyrwyr hynny sy'n dymuno parhau i weithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ar ôl cymhwyso, derbynnir y radd mewn nyrsio i barhau i gofrestru fel gweithiwr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gellir defnyddio'r radd hefyd i gofrestru am y tro cyntaf fel rheolwr cartref gofal ynghyd â gofyniad bod cymhwyster rheoli yn cael ei gwblhau o fewn tair blynedd i gofrestru.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol, ewch i https://www.wecare.wales/.