Mae Optometreg AaGIC yn gyffrous i gynnal Adolygiad gan Gymheiriaid Amlddisgyblaethol Golwg Gwan a darparu fforwm ar gyfer cymorth amlddisgyblaethol gan gymheiriaid, lle gall mynychwyr drafod senarios yn seiliedig ar achosion a llwybrau cleifion effeithiol a rheolaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yr adolygiad gan gymheiriaid yn gyfle i gyfnewid adnoddau, gwybodaeth, profiad ac arbenigedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymwneud â chefnogi'r rhai sy'n byw â cholled golwg. Ei nod fydd cefnogi ymarferwyr i fagu hyder mewn systemau cymorth lleol a chenedlaethol gan alluogi pobl sy'n byw gyda cholled golwg i gael eu hatgyfeirio i wasanaethau cymorth yn gynnar.
Manylion y sesiwn;
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Medi 2024
Amser: 18.00-21.00
Lleoliad: Ty Dysgu, Nantgarw, CF15 7QQ
Sut i archebu eich lle: https://ytydysgu.heiw.wales/events/6db41d36-313f-4fa7-8ebe-d39708ff4416/overview
(Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad Y Ty Dysgu)
Cymhwysedd: WGOS 3 Ymarferwyr LVSW yn BIPCAF
DPP: 3 Pwynt Adolygiad gan Gymheiriaid