Neidio i'r prif gynnwy

 Noddi categori gan AaGIC yng Ngwobrau Womenspire

Ar gyfer Gwobrau Chwarae Teg Womenspire 2022, byddwn yn noddi’r categori Menywod mewn Iechyd a Gofal.

Mae Gwobrau Chwarae Teg Womenspire  yn arddangos llwyddiannau rhyfeddol menywod ledled Cymru a bydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGICMae'r wobr yn ymwneud â chydnabod menywod a'u cyfraniad arbennig ym maes iechyd a gofal. Mae cydnabod eu cynnydd a’u llwyddiannau’n bwysig iawn. Mae hyn yn fodd i gynnig modelau rôl sy’n ysbrydoli ac yn rhoi gwybod i’n cenhedlaeth iau bod gan faes iechyd yrfaoedd sy’n bodloni ac yn llawn boddhad.”

Rydym am gefnogi’r wobr hon oherwydd mai uchelgais ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru yw ‘bydd arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol erbyn 2030’.

Mae hyn yn golygu bod yn gynhwysol. Ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym wedi creu Egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd y rhain yn hybu ac yn ymgorffori cynhwysiant fel ran o ddiwylliant iechyd a gofal.

Un o'r egwyddorion hyn yw; ‘gwella cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, gan ddileu rhwystrau a ffiniau yn fwriadol’. Rydym felly’n ymdrechu’n fwriadol i fod yn gynhwysol a sicrhau bod amrywiaeth ein harweinwyr ar hyd maes iechyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yn ein gweithlu a demograffeg amrywiol y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu.

Mae sawl aelod o staff AaGIC wedi cymryd rhan yn y rhaglen ‘Menywod yn arwain’ gyda gwerthusiad cadarnhaol iawn. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at ddilyn gyrfa arweiniol yn ein sefydliad.

Dymunwn bob lwc i bawb sy’n ymgeisio am y gwobrau ac edrychwn ymlaen at glywed eich hanesion yn y seremoni ym mis Medi.