Neidio i'r prif gynnwy

Nifer uchaf erioed o fferyllwyr yn dewis hyfforddi yng Nghymru

Mae'r nifer uchaf erioed o hyfforddeion fferyllol wedi derbyn lleoedd hyfforddi cyn cofrestru yng Nghymru eleni, sef cyfanswm o 155-cynnydd o 60% o 2019/20.

Yn dilyn proses recriwtio helaeth, mae 97% o'r lleoedd sydd ar gael wedi'u llenwi ar draws byrddau iechyd ledled Cymru.  Cefnogwyd y broses o recriwtio ar gyfer y fferyllwyr cyn-gofrestru drwy hyrwyddo ymgyrch gwaith #HyfforddiGweithioByw, a phresenoldeb AaGIC mewn digwyddiadau gyrfaoedd yn y Brifysgol ledled y DU gan ganolbwyntio ar fyfyrwyr fferyllol a oedd yn penderfynu lle i ymgymryd â'u hyfforddiant cyn cofrestru.

Dywedodd Margaret Allan, Deon Fferyllfa yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW);

“Rwy'n falch iawn bod myfyrwyr israddedig ledled y DU wedi cydnabod yr ymrwymiad yng Nghymru i fuddsoddi mewn hyfforddiant cyn cofrestru ar gyfer fferyllwyr. Mae'r buddsoddiad yn cynnwys niferoedd cynyddol, ond bydd yn sicrhau profiad hyfforddi o ansawdd a safon ar draws y llwybr gofal cleifion.

"Rydyn ni eisiau i fferyllwyr fod â'r sgiliau i ddarparu'r gofal gorau i gleifion lle bynnag y maen nhw, a'r rhaglen hon fydd y blociau adeiladu i gyflawni uchelgeisiau "Fferylliaeth: Sicrhau Cymru Iachach”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r cynnydd sylweddol hwn mewn hyfforddeion fferyllol i Gymru yn newyddion gwych ac yn ddechrau calonogol iawn i'n hymdrechion i hyfforddi mwy o fferyllwyr. Yng Nghymru, mae fferyllwyr yn chwarae rôl bwysig fwyfwy o ran darparu cyngor a thriniaeth mewn cymunedau, meddygfeydd ac ysbytai. Mae hyn yn rhan allweddol o'n gweledigaeth ar gyfer y GIG yn y dyfodol.

"Rydym yn buddsoddi £3.6 miliwn ychwanegol yn 2020/21 ar gyfer hyfforddi fferyllwyr a chynyddu nifer y lleoedd hyfforddi, ac yn bwriadu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi mewn fferyllfeydd i 200 erbyn Awst 2023.

Mae myfyrwyr o Loegr a'r Alban wedi dewis dod i Gymru i hyfforddi gyda chydweithwyr sydd wedi dilyn eu hyfforddiant cychwynnol ym Mhrifysgol Caerdydd a phenderfynu parhau â'u hastudiaethau yma, mae fferyllwyr hyfforddi cyn cofrestru yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys ysbytai, y gymuned ac o fewn gofal sylfaenol.  Bydd y rhaglen hyfforddi flaenllaw hon yn y DU yn rhoi llwyfan i fferyllwyr chwarae rôl gynyddol yn y tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol drwy ddefnyddio eu harbenigedd unigryw i ddefnyddio meddyginiaethau'n ddiogel ac i'r gorau.

 

Nodiadau'r Golygydd:

Yn 2019/20 roedd 96 o hyfforddeion, yn 20/21 bydd 155.

Y gyfradd lenwi gyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr oedd 65% felly mae Cymru wedi rhagori ar y gyfradd o 32%.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #Hyfforddi Gweithio Byw i'w gweld ar y wefan: https://hyfforddigweithiobyw.cymru/

Ceir rhagor o wybodaeth am Fferylliaeth: Sicrhau Cymru Iachach yn: www.rpharms.com/recognition/all-our-campaigns/pharmacy-delivering-a-healthier-wales