Neidio i'r prif gynnwy

"Ni fydd hyn yn ddim byd tebyg i weddill fy ngyrfa ddeintyddiaeth": Bod yn hyfforddai deintyddol yn ystod pandemig Covid-19

[Rachel Botrugno (chwith) a Caron Pari (dde) yn y llun uchod]

Fel pob gwasanaeth gofal iechyd arall, bu'n rhaid i ddeintyddiaeth addasu'n sylweddol yn ystod pandemig Covid-19 ac mae hyfforddeion deintyddol yng Nghymru wedi profi rhaglen hyfforddi annhebyg i unrhyw garfan arall.

Mae gwasanaethau deintyddol wedi gweld llawer o wahanol reoliadau Covid-19, o gynnig brysbennu ffôn a thriniaeth frys i gleifion yn unig ar ddechrau’r cyfnod clo i ailagoriad gofalus ambell elfen o ofal wyneb yn wyneb.

Yn ystod brig ail don y pandemig ym mis Ionawr 2021, cafodd nifer o Hyfforddeion Deintyddol Craidd eu hadleoli i gefnogi timau amlddisgyblaethol a ofalai am gleifion Covid-19 yn yr ysbyty.

Mae tri hyfforddai; Rachel Botrugno, Caron Pari a Christina Williams yn rhannu eu profiadau o gael eu hadleoli i'r rheng flaen ynghyd â'r heriau, a’r bendithion, y buont yn dyst iddynt ym maes deintyddiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cefnogi cleifion ar y rheng flaen

Dywedodd Rachel Botrugno: “Ym mis Ionawr, cefais i a’m cydweithwyr eu hadleoli i Uned Gofal Dwys (ICU) Ysbyty Athrofaol Cymru. Fe aethom ni'r ward yn brydlon ar y diwrnod cyntaf, gyda'n hanadlyddion wedi’u gosod yn barod i wneud yr hyn a allem i helpu gydag ail don pandemig Covid-19.

“Ein prif rôl oedd troi cleifion detholedig i orwedd ar eu boliau, a hynny ar amseroedd penodol yn y bore a gyda’r nos. Fe wnaethom hefyd helpu gyda hylendid geneuol cleifion, hylendid personol a chymorth i newid strapiau tiwbiau mewndiwbio rhwng yr amseroedd troi cleifion ar eu boliau.

“Fe wnes i a’m cydweithwyr ddysgu’r broses gam wrth gam o droi cleifion ar eu boliau yn gyflym, ac ar brydiau roeddem ni’n gallu cyfarwyddo a chynghori aelodau eraill o’r tîm a oedd yn llai profiadol ynghylch y dilyniant troi cleifion ar eu boliau.”

Mae Christina Williams (yn y llun ar y dde) yn rhannu ei hargraff gyntaf hi ar y ward: “Ar ein diwrnod cyntaf roedd yn amlwg ar unwaith pa mor dreuliedig a blinedig oedd llawer o staff yr adran gyda chleifion lluosog i bob nyrs ICU. Roedd y ward ei hun yn gwbl annhebyg i’r hyn yr oeddwn wedi’i ddychmygu – roedd graddfa yr ICU yr oeddent wedi’i chreu yn dyst i staff yr ysbyty, eu cydweithredu a’u gallu i addasu."

Yr heriau o weithio ym maes deintyddiaeth yn ystod y pandemig

I Caron Pari, daeth un o heriau mwyaf y pandemig ym mis Mawrth 2020 pan gyflwynwyd cyfyngiadau am tro cyntaf: “Roedd dechrau’r pandemig yn un o’r amseroedd anoddaf gan na allem wneud unrhyw beth heblaw siarad â chleifion ar y ffôn.

“Mewn rhai achosion, pan oedd cleifion mewn poen a ninnau’n analluog i wneud fawr ddim ond cynnig cyngor dros y ffôn, roedd yn anodd cael y sgwrs honno, dweud wrth rywun na allech eu helpu yn y ffordd y byddech chi fel arfer.”

Aiff Caron yn ei blaen i ddisgrifio’r heriau y bu iddi eu hwynebu wedyn wrth weithio mewn ICU am y tro cyntaf: “Roedd ICU yn amgylchedd hollol wahanol ac yn un na fûm i ynddo erioed o’r blaen. Roedd yn sioc gweld cleifion mor ddifrifol wael ag y maent yn ICU. Mae pawb mewn masgiau a gallwch weld pa mor galed y mae’r nyrsys a’r tîm cyfan yn ceisio gwneud i bethau fod mor normal â phosibl mewn amseroedd rhyfedd iawn, ond mae’n sefyllfa drist, yn enwedig i deuluoedd y cleifion gan na allant ddod i weld eu hanwyliaid.”

Her barhaus arall y mae gweithwyr gofal iechyd wedi’i hwynebu yn ystod y pandemig yw Offer Amddiffynnol Personol (PPE), eglura Rachel Botrugno: “Mae PPE ansawdd uwch yn hynod bwysig mewn pandemig, ond gall ei gwneud hi’n anodd gweithredu gweithdrefnau hirfaith. Rwy’n teimlo bod hyn yn arbennig o berthnasol i ddeintyddion ifanc sy’n datblygu eu sgiliau ac a allent gymryd mwy o amser i gwblhau gweithdrefnau fel triniaeth sianel y gwreiddyn.

“Pan fyddant yn cael eu gwisgo am gyfnodau hir, gall y masgiau anadlydd achosi gwasgedd ar yr wyneb oherwydd sêl y mwgwd a thyndra o amgylch y pen o ganlyniad i’r strap pen. Hefyd, gall cynhesrwydd gwisgo gŵn llawfeddygol hyd llawn ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio am gyfnodau hir.”

Canfod y pethau cadarnhaol a’r gwersi a ddysgwyd ar gyfer y dyfodol

I Caron, mae cael ei hadleoli i’r ysbyty wedi ei pharatoi ar gyfer ei chylchdro hyfforddiant nesaf mewn llawfeddygaeth yr ên a’r wyneb: “Rydw i ar fin dechrau chwe mis o hyfforddiant yn adran yr ên a’r wyneb sy’n fwy o rôl math ysbyty, felly rydw i'n teimlo bod fy mhrofiad yn ICU wedi fy mharatoi ychydig ar gyfer hynny gan fy mod yn fwy cyfarwydd ag amgylchedd yr ysbyty nag yr oeddwn.”

Mae Christina Williams yn credu bod ei phrofiad yn ICU yn un cadarnhaol ar y cyfan diolch yn bennaf i’r staff anhygoel sy’n gweithio yn yr adran: “Roeddent i gyd yn hynod gefnogol a chroesawgar. Fe wnaed inni deimlo’n rhan o uned dîm fawr a derbyniwyd unrhyw help a gynigiwyd gennym yn eithriadol o werthfawrogol, waeth pa mor fach ydoedd. Roedd y gwytnwch a ddangoswyd gan y staff wrth ddelio â’r amgylchiadau mwyaf heriol yn rhywbeth y byddaf yn ei gadw gyda mi wrth symud ymlaen. 

“Dangosodd fy mhrofiad yn ICU hefyd y rôl ehangach y gall gweithwyr deintyddol proffesiynol ei chwarae. Mae gennym nifer o sgiliau trosglwyddadwy ac rydym wedi arfer gweithio mewn timau.”
 


Mae Rachel Botrugno (yn y llun ar y chwith) yn cytuno: “Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o’r amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a ddefnyddir o fewn amgylchedd yr ICU y bu imi eu hennill yn ystod fy hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig mewn deintyddiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, empathi, anatomeg y pen, y gwegil, y geg a’r gwddf, yn ogystal â’n gwybodaeth ynglŷn â gwisgo PPE, rheoli heintiau a hylendid dwylo.

“Rwyf hefyd wedi ennill parch ac edmygedd enfawr tuag at nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio’n ddiflino ar ran y cleifion dan eu gofal o fewn ICU. Roedd unigolion yn yr adran yn diolch i ni’n gyson am aberthu amser o fewn ein rhaglen hyfforddi i gael ein hadleoli i’r ward.

“Rwy’n gwerthfawrogi na fydd fy amser yn ICU yn ddim byd tebyg i weddill fy ngyrfa ddeintyddiaeth, ond rwy’n falch fy mod i a fy nghydweithwyr wedi ymgymryd â’r her ar adeg pan oedd gwir angen.”