Neidio i'r prif gynnwy

Newid mawr i broses dyrannu rhaglen sylfaen ar gyfer recriwtio 2024

Mae pedwar corff addysg statudol y DU wedi cytuno ar newid yn y ffordd y caiff proses dyrannu Rhaglen Sylfaen y DU ei rheoli ar gyfer 2024.

 Bydd y cam hwn yn golygu cyflwyno model dyrannu newydd ar gyfer graddedigion meddygol sy'n golygu y bydd ymgeiswyr yn cael safle a gynhyrchir gan gyfrifiadur a dileu'r angen i sefyll y Profion Dyfarniad Sefyllfaol (SJT).

 Mae'r newidiadau wedi cael eu cefnogi gan y Cyngor Ysgolion Meddygol, Cymdeithas Feddygol Prydain a phob un o bedair llywodraeth y DU ac maent yn berthnasol i bob myfyriwr meddygol fel rhan o'u dyraniad i ysgol sylfaen yn y DU.

Cyhoeddwyd cynlluniau i edrych ar y ffordd mae'r rhaglen sylfaen yn gweithio ym mis Ionawr pan gynigiwyd model newydd ar gyfer dyrannu lleoedd. Ar hyn o bryd mae ymgeiswyr yn cael eu rhestru ar sail cyfuniad o'u sgôr Mesur Perfformiad Addysgol a sgôr Prawf Barn Sefyllfaol, gyda'r ymgeiswyr o'r radd uchaf yn cael eu dewis ysgol sylfaen yn gyntaf.

Derbyniwyd dros 14,500 o ymatebion, ac roedd y mwyafrif o ymatebwyr (66%) o blaid symud i'r opsiwn "Dyraniad Gwybodus Dewisol" ar gyfer 2024 o'i gymharu â 33% a oedd am barhau â'r dull presennol.

Mae'r newid yn dilyn proses ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys unigolion a sefydliadau a roddodd eu barn ynghylch a ddylai'r broses dyrannu aros yn ei fformat presennol neu symud i system newydd. Mynegwyd rhai pryderon am y broses bresennol sy'n cynnwys fod y system yn cael ei hystyried yn annheg, yn straen ar ymgeiswyr, a diffyg safoni o fewn ac ar draws ysgolion. Roedd y broses ymgysylltu hon yn ein galluogi i weld a oes awydd i newid y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud.

Dywedodd yr Athro Liz Hughes MBE, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg Israddedig yn y Gyfarwyddiaeth Gweithlu, Hyfforddiant ac Addysg GIG Lloegr: "Mae'r broses ymgysylltu hon wedi ein galluogi i ystyried barn rhanddeiliaid i sicrhau newid yn y ffordd rydym yn dyrannu lleoedd rhaglenni sylfaen o 2024 ymlaen.

"Mae'r canlyniadau'n dangos bod awydd cryf wedi bod am newid y system bresennol ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn creu proses decach a llai o straen ar ymgeiswyr."

Prif ganfyddiadau'r arolwg yw:

 

• Nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yr hoffent symud i Dyraniad Gwybodus Dewisol ar gyfer 2024 (66%)

• Roedd canran lai eisiau cadw'r system bresennol (33%)  

• Roedd mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr (85%) yn cytuno â'r datganiad y gall yr SJT fod yn straen mawr i ymgeiswyr

 

Bydd y newidiadau'n cael eu gweithredu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a byddant yn cael eu gweithredu ar gyfer rownd Rhaglen Sylfaen 2024 sy'n agor ar gyfer ceisiadau ym mis Awst 2023.

Ar ôl ei gweithredu, bydd y system newydd yn cael ei hadolygu'n gyson i sicrhau ei bod yn gweithio'n dda i ymgeiswyr, ac os oes angen, gellir gwneud newidiadau.

Bydd canllawiau ymgeiswyr yn cael eu diweddaru i esbonio'r newidiadau a byddant ar gael ym mis Gorffennaf.