Neidio i'r prif gynnwy

Naw enwebiad i Gymru yng Ngwobrau Student Nursing Times

Mae Cymru wedi sicrhau ei lle fel y lle i hyfforddi, gweithio a byw yn y DU ar ôl derbyn naw enwebiad ar y rhestr fer yng Ngwobrau'r Student Nursing Times 2021.

Mae'r gwobrau blynyddol, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, yn dathlu cyflawniadau myfyrwyr nyrsio ledled y DU a'r holl unigolion a sefydliadau hynny sy'n eu cefnogi.

Y rhai sydd ar y rhestr fer yng Nghymru yw:

Myfyriwr Nyrsio mwyaf ysbrydoledig

  • Melissa Louise Chard, Prifysgol Bangor
  • Chloe Scott, Prifysgol Bangor
  • Simon James, Prifysgol Abertawe

Myfyriwr Nyrsio y flwyddyn – oedolion

  • Simon James, Prifysgol Abertawe
  • Stuart Michael John Denman, Prifysgol Abertawe

Lleoliad myfyrwyr y flwyddyn - ysbyty 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Uned Llygaid Stanley - Ysbyty Abergele (Gwasanaeth Offthalmig)

Lleoliad myfyrwyr y flwyddyn - cymuned

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth anabledd dysgu plant y Gorllewin

Goruchwyliwr ymarfer y flwyddyn

  • Ann Sealey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn comisiynu sawl cwrs nyrsio ym mhrifysgolion Cymru i ddiwallu anghenion y gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant, Nyrsio Anabledd Dysgu a Nyrsio Iechyd Meddwl.

Llongyfarchodd Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Nyrsio ac Addysg Broffesiynol Iechyd yn AaGIC, bawb ar y rhestr fer a dywedodd "Mae naw ar y rhestr fer mewn seremoni wobrwyo genedlaethol yn rhagorol ac yn dangos yn glir ansawdd yr addysg a'r hyfforddiant sydd gennym ar gael yma yng Nghymru.

“Ein nod yw darparu profiad dysgu o safon i'n holl fyfyrwyr a fydd, yn ei dro, yn darparu gofal diogel o ansawdd i'n poblogaeth, fel y nodir yn Gymru iachach”.

Dywedodd Simon James, sydd wedi cael ei enwebu am ddwy wobr “Rydw i’n wrth fy modd i fod ar y rhestr fer gyda’r myfyrwyr eraill o bob rhan o’r DU. O'r adeg y dechreuais y cwrs i'r man lle'r wyf yn awr, mae fy natblygiad wedi bod yn anhygoel ac mae rhan fawr o hynny'n ganlyniad i'r ffordd yr wyf wedi cael fy nghefnogi gan y radd nyrsio a'r brifysgol ei hun. Mae'n dangos y posibiliadau y gellir eu cyflawni os ydych yn manteisio ar gyfleoedd".

Dywedodd Chloe Scott sydd ar restr fer y nyrs fwyaf ysbrydoledig, "Rwyf bob amser yn ceisio mynd at bob rhwystr gyda phositifrwydd a cheisio rhannu hyn ag eraill. Nid am gydnabyddiaeth, ond i'n hannog ni i gyd i fod y gorau y gallwn fod, gan ymdrechu'n barhaus i gael gofal cleifion arwrol ar draws pob sector o'r proffesiwn nyrsio".

Dywedodd Simon Denman, sydd ar y rhestr fer ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio y Flwyddyn (Oedolion) "Mae'n gymaint o anrhydedd cael cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Rwyf wedi cael fy mendithio drwy gydol fy amser fel myfyrwyr nyrsio i gael cymaint o gyfleoedd, profiadau a chefnogaeth gan y brifysgol, eu cysylltiadau, y staff, fy nghyd-fyfyrwyr a chleifion ein GIG."

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni fyw ddisglair ddydd Iau 4ydd o Dachwedd 2021 yng Ngwesty Grosvenor House, Park Lane.

Gellir gweld rhestr fer lawn y gwobrau eleni ar wefan Gwobrau Student Nursing Times, https://studentawards.nursingtimes.net/shortlist_2021.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am pam mae Cymru yn lle perffaith i hyfforddi, gweithio a byw, ewch i https://www.wales.com/cy/Hyfforddi-Gweithio-Byw.