Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr yn helpu AaGIC i gynllunio ei interniaeth gyntaf erioed

Group of young people sat around a laptop

Mae naw myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi cefnogi Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ddylunio ei interniaeth gyntaf erioed.

Gwelodd y rhaglen rithwir pythefnos y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad sefydlu, ac yna sesiynau ar sgiliau cyflwyno, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ffactorau dynol a gwella ansawdd, ac arweinyddiaeth dosturiol.

Cynhaliodd y grŵp hefyd saffaris sefydliadol gyda sawl adran gan gynnwys gwasanaethau nyrsio, fferylliaeth, deintyddol a chynllunio, perfformiad a chorfforaethol cyn cwblhau modiwl Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT).

Ar ôl cael mewnwelediad i AaGIC a’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae, daeth y rhaglen i ben gyda’r grŵp yn dylunio a chyflwyno’r glasbrint ar gyfer Interniaeth Haf gyntaf AaGIC i’r Prif Weithredwr, Alex Howells ac aelodau eraill o’r uwch dîm arweinyddiaeth.

Yn dilyn eu cyfnod o bythefnos yn AaGIC, dywedodd un myfyriwr, “Mae'r profiad hwn wedi bod yn rhyfeddol ac wedi rhagori ar fy nisgwyliadau yn llwyr.

“Mae wedi bod yn anhygoel dysgu am AaGIC yn fwy manwl a deall mwy o'r hyn sy'n digwydd, nodau ac amcanion gwahanol adrannau a mwy. Rydw i mor gyffrous i ddod yn ôl eto yn yr Haf a gweithio fel aelod go iawn o dîm AaGIC.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Alex Howells, “Cefais fy synnu gan yr adborth gan y myfyrwyr - a’r ffaith eu bod wedi dysgu llawer iawn mewn pythefnos yn unig, er gwaethaf y trefniadau rhithwir sydd gennym ar waith.

“Maen nhw wir wedi mentro ynglŷn â'r hyn maen nhw'n gobeithio ei gael o'r lleoliadau Haf ac alla i ddim aros i weld pa brosiectau gwella maen nhw'n mynd i fod yn eu cyflawni i ni.

Rwy’n gobeithio y bydd y profiad hwn wir yn eu hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd yn y GIG yn y dyfodol, ac rwy’n falch y bu ymateb mor gadarnhaol i’r fenter hon gan y sefydliad.”

Bydd y naw yn dychwelyd ym mis Gorffennaf 2021 am chwe wythnos fel carfan gyntaf AaGIC o interniaid Haf.