Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr, hyfforddeion a staff GIG Cymru wedi elwa o adnoddau digidol newydd

[ Yr offer TG newydd mewn llyfrgell GIG Cymru.]

 

Mae myfyrwyr, hyfforddeion a staff GIG Cymru wedi elwa offer TG newydd ddiolch i ariannu gwerth £50K wrth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae ymddiriedolaethau a bordydd ar ddrws Cymru wedi derbyn caledwedd newydd, gan gynnwys cyfrifiaduron ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau addysg ôl-raddedig.

Bydd y buddsoddant digidol yn helpu GIG Cymru i ddarparu addysg dosbarth cyntaf a chyfleoedd hyfforddiant i fyfyrwyr israddedig a hyfforddeion ôl-raddedig. Yn ogystal â chefnogi aelodau staff o fewn bordydd iechyd ac ymddiriedolaethau.

Mae llyfrgelloedd ysbytai yng Nghymru yn rhoi mynediad i staff a myfyrwyr GIG Cymru at wasanaethau ac adnoddau fel e-lyfrau, e-gylchgronau a chronfeydd data.

Dwedodd Meg Gorman, Ymgynghorydd Partneriaethau Llyfrgelloedd y GIG a Chynghorydd Llyfrgell y Deon; “Mae hwn yn gyfle arbennig i gynyddu'r mynediad i gyfleusterau TG yn ein llyfrgelloedd. Rydym yn sicr y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar addysg a gofal cleifion gan bod staff efo mynediad gwell i adnoddau ar-lein.”

Eglurodd Jane Parry, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sut mae’r gliniaduron newydd yn galluogi'r llyfrgell ym Mhowys hyrwyddo ei wasanaethau yn ffordd fwy hyblyg. “Mae'r gliniaduron newydd yn adnodd gwych. Gan ein bod ni mewn ardal wledig, mae’n hanfodol mae cael pecyn TG cludadwy er mwyn rhedeg sesiynau galw heibio mewn llyfrgelloedd a digwyddiadau eraill ar draws Powys.

Bydd cyfleusterau TG sydd ar gael i hyfforddeion meddygol yn ardaloedd cyfarfod y meddygon hefyd yn cael eu gwella, gan ganiatau mynediad gwell at wybodaeth sy'n cefnogi hyfforddiant.

Dywedodd Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Datblygu'r Gweithlu a Threfniadaeth yn AaGIC: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi myfyrwyr gofal iechyd, hyfforddeion a staff ledled Cymru drwy'r buddsoddiad hwn yn eu darpariaeth TG.

“Mae cael gafael ar offer ac adnoddau digidol o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hyfforddeion yn gallu cwblhau eu rhaglenni hyfforddi hyd eithaf eu gallu ac felly'n darparu'r gofal cleifion gorau phosib.”

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion:

Dosbarthwyd cyfanswm o 28 gliniadur, 16 o fonitorau a 51 desktop’s gan AaGIC i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru.

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy uno thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru; a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Broffesiynol Fferyllol (WCPPE).

Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://heiw.nhs.wales/