Neidio i'r prif gynnwy

Mis AHP actif

Ym mis Awst 2022 gwelwyd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn gwneud y gorau o'r tywydd braf a gwyliau'r haf trwy fod yn egnïol!

Cymerodd tîm Rhaglen Trawsnewid AHP ran yn yr Her cadw’n actif We Active Challenge 2022 a gynhaliwyd gan We Communities.

Cymerwch olwg ar ymdrechion y tîm fel rhan o fis #ActiveAHPs

 

Dyma Gymrawd Arweinyddiaeth Glinigol AHP Cymru a Therapydd Iaith a Lleferydd, Laura Braithwaite Stuart yn mynd â’i chi, Reg, am dro ar draeth Llanddwyn, Sir Fôn.

 

Ffisiotherapydd a Chymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru Ross yn rhedeg ei daith i’r swyddfa er mwyn ffitio rhywfaint o ffitrwydd mewn i'r diwrnod.

 

Mae Arweinydd Iechyd Cyhoeddus ac Atal AHP Cymru Gyfan, Judith John, wedi bod yn manteisio ar y cyfle i fynd i nofio cyn y gwaith! “Does dim byd tebyg i 40 hyd o’r pwll yn yr haul cyn y gwaith.”

 

Yr haf hwn, rydym wedi bod yn ddigon lwcus i gael cwmni intern AaGIC, Rhian Dixon, sy’n astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Rhian a’i chi, Blue, wedi bod yn mwynhau’r heulwen.

 

Fe wnaeth Jon Matthias, Rheolwr Rhaglen AHP, taclo cwrs minigolf tra ar wyliau. "Dyw bod yn actif ddim o reidrwydd yn golygu gorfod gwneud rhywbeth gwirioneddol anodd, cyn belled â'ch bod chi'n symud o gwmpas" meddai. "Mae angen canolbwyntio wrth chwarae minigolf yn ogystal â sgìl. Roeddwn i hefyd yn dysgu fy nith pedair oed, a oedd wedi ychwanegu at yr her. Gyda'n gilydd fe lwyddon ni i wneud y twll wedi’i siapio fel llosgfynydd mewn un!"

 

Dilynwch ni ar Tryder AHP Cymru (@AHP_Cymru) / Twitter