Neidio i'r prif gynnwy

Medal Cymdeithas Feddygol Prydain

Rydym wrth ein bodd bod Mr Rajnesh Nirula, un o'n Deoniaid Cysylltiol, wedi ennill Medal Cymdeithas Feddygol Prydain yng nghyfarfod Cynrychiolwyr Blynyddol y BMA yn Belfast ar ddydd Mawrth 25 Gorffennaf 2019.

Dyma brif gorff llunio polisi'r BMA lle trafodir cynigion a chytunir ar bolisïau'r BMA, ac fe gasglodd tua 500 o feddygon o bob rhan o'r proffesiwn a ledled y DU i ystyried a thrafod materion allweddol sydd o ddiddordeb i'r proffesiwn meddygol. Dim ond chwe meddyg a gafodd fedalau.

Dyfarnwyd gwobr Mr Nirula gan yr Athro Raanan Gillon, Llywydd etholedig y BMA. Mae Mr Nirula wedi bod ar flaen y gad mewn rhaglenni i nodi a mynd i'r afael â bwlio SAS (Arbenigwyr Staff a Chysylltiadau) yng Nghymru ac mae’n hyrwyddwr brwdfrydig dros amrywiaeth ethnig.

Dywedodd Mr Nirula “Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon, rwyf wedi gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau i feddygon o darddiad lleiafrifoedd ethnig ac wedi gwneud hynny gyda'r bwriad o ddod o hyd i atebion.”

Dywedodd yr Athro Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AGIC, “Mae Raj wedi cefnogi meddygon SAS am flynyddoedd lawer yng Nghymru a'r DU. Does dim rhaid dweud ein bod yn llongyfarch Raj ar dderbyn y wobr hon.”

 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru; a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Broffesiynol Fferyllol (WCPPE).

Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://heiw.nhs.wales/