Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r offeryn Lefelau Gofal Cymru Newydd o fudd i Nyrsys Ardal yng Nghymru

Mae'r offeryn Lefelau Gofal Cymru Newydd o fudd i Nyrsys Ardal yng Nghymru

Jody Hill, Arweinydd Prosiect Nyrsys Ardal

 

Helo, fy enw i yw Jody Hill, a fi yw Arweinydd Prosiect Nyrsys Ardal Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Rydw i wedi bod yn nyrs ers 40 mlynedd o fewn y GIG, ar draws llawer o leoliadau, o ITU i wardiau Meddygol, nyrsio practis ac yn fwy diweddar fel Arweinydd Ansawdd y Rhaglen Sgrinio Serfigol yng Nghymru. Ymunais â thîm y Rhaglen Staff Nyrsio ym mis Mawrth 2020 gan fod y swydd yn cynnig cyfle unigryw i godi proffil sefydliadau staff nyrsio ardal a chanolbwyntio ar ddarparu gofal yn deimladwy i gleifion.

Mae'r ffrwd waith nyrsys ardal yn ymgysylltu â nyrsys ardal ledled Cymru. Mae 159 o dimau nyrsys ardal yn gweithio ar draws Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru. Caiff y timau hyn eu grwpio yn ôl ardal neu glystyrau o fewn eu Bwrdd Iechyd neu eu Hymddiriedolaeth. Maent yn gweithio mewn llawer o amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig, arfordirol a dyffrynnog sy'n dylanwadu ar eu baich achosion a'u mathau o boblogaeth cleifion.

Drwy gydol y 18 mis diwethaf rydw i wedi ymgysylltu a gweithio'n agos gydag arweinwyr gweithredol nyrsio ardal, arweinwyr tîm a nyrsys cymunedol o'r holl Fyrddau Iechyd ledled Cymru. Rydw i wedi dysgu sut y bu'n rhaid i waith beunyddiol y timau newid i flaenoriaethu gofal a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio i ymdopi ag argaeledd cyfnewidiol staff drwy gydol pandemig Covid-19. Mae nyrsys ardal wedi ymgymryd â rolau a sgiliau newydd i ofalu am gleifion cynyddol gymhleth yn y gymuned. Fe'm trawyd gan y ffordd y mae nyrsys cymunedol ar bob lefel wedi addasu a chamu i’r adwy i wynebu galwadau newidiol a chynyddol ar eu gwasanaeth. Maen nhw wedi dangos dewrder aruthrol yn wyneb ansicrwydd yn ystod y pandemig.

Drwy gydol hyn, mae aelodau'r grŵp ffrwd waith wedi bod yn datblygu fersiwn ddrafft Lefelau Gofal Cymru (WLoC) i'w defnyddio mewn nyrsio ardal. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn treialu'r offeryn ar draws yr holl Fyrddau Iechyd. Mae'r offeryn aciwtedd a lefel o ddibyniaeth hwn wedi cael ei dderbyn yn eang gan y rhai sydd wedi'i ddefnyddio. Mae nyrsys ardal ledled Cymru wedi dangos brwdfrydedd a diddordeb yn y WLoC ac mae sesiynau hyfforddi parhaus yn cael eu cynnig i ymestyn eu gwybodaeth am yr offeryn aciwtedd.

Mae'r grŵp wedi parhau i gyfarfod yn fisol (er nad oedd cworwm bob amser yn ystod y cyfnod clo) i ddyfeisio dangosyddion ansawdd. Mae angen gwaith pellach ar y rhain i ddangos sut mae nyrsys ardal yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ganlyniadau cleifion ac sy'n sensitif i lefelau staff nyrsio. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i ymgorffori barn broffesiynol o fewn y dull trionglog a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo lefelau staff nyrsio o fewn timau nyrsio ardal pan fydd ail ddyletswydd y Ddeddf yn cael ei hymestyn.

Mae dawn ymgyfaddasu ac ymroddiad timau nyrsio ardal wedi bod yn arbennig o amlwg dros y 18 mis diwethaf. Gall cyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio sy'n seiliedig ar dystiolaeth roi hyder i nyrsys yn eu gallu i ddarparu gofal a boddhad swydd, yn ogystal â helpu i recriwtio nyrsys newydd i'r proffesiwn.

Dros y flwyddyn i ddod hoffwn allu darparu mwy o gymorth wyneb yn wyneb i dimau gweithredol a symud y gwaith yn ei flaen.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ffrwd waith nyrsio ardal, ewch i'r adrannau perthnasol ar ein gwefan.

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gyd.