Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair ar gyfer GIG Cymru

Mae buddsoddiad AaGIC yn arweinwyr GIG Cymru i’r dyfodol eisoes yn profi'n llwyddiannus, gyda chyfranogwyr yn denu sylw byd-eang.

Mae Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale, a noddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ymhlith eraill, yn cefnogi ysgolheigion i hyrwyddo a gwella gofal iechyd i bobl Cymru.

Mae'n darparu datblygiad gyrfaol cyflymach, cefnogaeth, dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rhwydweithio i feithrin hyder ac awdurdod ymysg ysgolheigion. Bydd hyn yn gwella gofal cleifion yng Nghymru.

Mae'r ysgoloriaeth blwyddyn wedi'i hanelu at uwch-nyrsys a bydwragedd sydd ag uchelgais i fod yn arweinwyr systemau o fewn GIG Cymru neu sydd eisiau datblygu ac ehangu eu sgiliau i lefelau newydd.

Enghraifft ysbrydoledig sy'n profi llwyddiant cynllun Nightingale yw Rebecca Thomas. Gyda chefnogaeth yr ysgoloriaeth, datblygodd Rebecca brosiect ar ddiogelwch seicolegol, a amlygai fanteision enfawr i gleifion a staff, a aeth yn fyd-eang ar ôl i Amy Edmondson, athro cyfadran ac ymchwil yn Ysgol Fusnes Harvard gymryd diddordeb ynddo.

Mae Rebecca hefyd yn ysgrifennu blogiau arweinyddiaeth ac yn cynnal podlediad sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol—yn sefyll ymysg y 50% uchaf o blith podlediadau ar sail y nifer o weithiau y caiff ei chwarae.

“Mae'r ysgoloriaeth yn rhoi cymaint, mae wedi rhoi hyder a dewrder i mi, cyfleoedd unigryw a mentoriaeth a chefnogaeth ragorol. Mae'r rhwydweithiau rydych chi'n eu creu a'r bobl rydych chi'n cwrdd â nhw’n dipyn o beth! Mae'n ysbrydoli, yn ysgogi ac yn eich gwneud yn ostyngedig. Byddwn yn annog unrhyw un i fod yn fentrus a gwneud cais am ysgoloriaeth gan ei fod yn gyfle na ddylid ei golli. Mae wedi agor llawer o ddrysau i mi ac rydw i wedi bachu ar bob cyfle i dyfu a rhannu”.

O weld llwyddiant Rebecca o fewn y rhaglen, rydym yn edrych ymlaen i ymwneud â’r cyfle unigryw hwn i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth. Mae’r broses ymgeisio am yr ysgoloriaeth newydd ddod i ben a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu blwyddyn ysgoloriaeth ym mis Ebrill 2022.

Darganfyddwch ragor am yr ysgoloriaeth yma: Ysgoloriaeth Arweinyddiaeth – Sefydliad Florence Nightingale (florence-nightingale-foundation.org.uk)