Mae adnodd newydd a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn amlinellu atebion a fydd yn helpu i liniaru’r pwysau ar y gweithlu a brofir gan dimau gofal critigol. Yn ogystal, bydd yn gwella mynediad amserol cleifion at wasanaethau gofal critigol ar draws GIG Cymru.
Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno rolau swyddi newydd i gynorthwyo strwythurau’r timau gofal critigol presennol. Yn ogystal byddant yn sicrhau dull safonol o addysgu a hyfforddi ar gyfer pob nyrs gofal critigol ledled Cymru.
Dan arweiniad dwy nyrs gofal critigol profiadol ar secondiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro , mae’r adnodd bellach ar gael i bob arweinydd gwasanaethau gofal critigol. Ei bwrpas yw i gynorthwyo’r datblygiad o wasanaeth, addysg a chyfleoedd gyrfa ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.
Dywedodd y nyrs gofal critigol ar secondiad, Judith Burnett, a fu’n gweithio fel Uwch Nyrs yng Nghyfarwyddiaeth Gofal Critigol CAVUHB yn ystod y pandemig:
“Ni all ehangu gwasanaethau gofal critigol gael ei ddatrys trwy gyllid yn unig. Oni chymerir camau ar unwaith i fynd i'r afael â'r heriau gwasanaeth presennol a'r diffygion yn y ddarpariaeth, bydd cyfyngiadau'r gweithlu ar gapasiti gofal critigol yn parhau i gael effaith negyddol ar fynediad amserol cleifion at wasanaethau gofal critigol.
“Mae’r adnodd defnyddiol hwn wedi’i greu yn dilyn ymgysylltu trylwyr ag unedau gofal critigol ar draws GIG Cymru i gael gwybodaeth am flaenoriaethau gwasanaeth, cyfyngiadau, a chynlluniau datblygu gofal critigol ar hyn o bryd. O ganlyniad, credwn y bydd y darn hwn o waith yn cael effaith ystyrlon ar wasanaethau gofal critigol ledled Cymru.”
Dywedodd Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Addysg Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn AaGiC:
“Cydnabyddir yn eang bod y pandemig wedi rhoi gwasanaethau gofal critigol dan bwysau aruthrol. Rhoddodd y pwysau hyn anogaeth i’r GIG i chwilio am atebion arloesol i heriau’r gweithlu. Arweiniodd hyn at lawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio mewn gwasanaethau gofal critigol am y tro cyntaf.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddysgu o’r profiadau hyn er mwyn llywio dyfodol ein gweithlu gofal critigol amlddisgyblaethol, lle mae heriau sylweddol o ran galw ac ôl-groniad o wasanaethau yn parhau.
“Cafodd adborth rhanddeiliaid ddylanwad mawr a rhoi cyfeiriad i’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn yr adnodd hwn. Mae’n gosod ehangu’r gweithlu ac addysg wrth wraidd datblygiad gwasanaethau gofal critigol yn y dyfodol.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein cydweithwyr yn y gwasanaeth yn gweld yr adnodd hwn yn ddefnyddiol wrth osod cyfeiriad y gweithlu amlddisgyblaethol ledled Cymru yn y dyfodol.”
Mewn ymateb i’r adnodd newydd, dywedodd Karla Hobbs, Addysgwr Ymarfer yn Uned Gofal Critigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Mae’r darn amhrisiadwy hwn o waith gan AaGIC yn cydnabod bod darparu addysg safonol ar gyfer nyrsys gofal critigol oedolion yng Nghymru gyfan yn hanfodol ar gyfer datblygu a chadw’r gweithlu.
“Mae datblygiadau diweddar yn y maes hwn eisoes wedi helpu i gymryd y pwysau oddi ar adrannau unigol ar draws y gwasanaeth a byrddau iechyd yng Nghymru, tra’n creu cyfle cyfartal i’n nyrsys ddysgu a datblygu eu gyrfaoedd.”
Mae rolau swyddi newydd a amlinellir yn yr adnodd yn cynnwys yr Ymarferydd Uned Gofal Dwys (ITU), yr Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol, yr Ymarferydd Cynorthwyol a’r Cydlynydd Llif Cleifion, ymhlith eraill.
Mae’r adnodd llawn, Hysbysu Gweithlu’r Dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Critigol, ar gael yma.
I gael trosolwg o'r darn hwn o waith, gwyliwch y fideo hwn.