Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n ddiwrnod canlyniadau TGAU heddiw

Os ydych chi'n casglu'ch canlyniadau TGAU heddiw, rydyn ni'n gwybod eich bod chi wedi cael amser anodd yn ddiweddar ac efallai yn ansicr ynghylch eich cam nesaf. Peidiwch â phoeni os na chawsoch y canlyniadau yr oeddech yn gobeithio eu derbyn, neu os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud nesaf. Mae yna lawer o opsiynau ar gael, 6ed dosbarth neu goleg i brentisiaethau a gwaith yn seiliedig ar hyfforddiant. Yn y GIG yng Nghymru mae dros 350 o gyfleoedd gyrfa, mae yna rôl i bawb. Ewch i wefan Gyrfaoedd GIG Cymru i ddarganfod mwy am ba gyrsiau sydd ar gael a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddod yn nyrs, meddyg, arbenigwr TG, cynorthwyydd cyllid, gweithiwr cymorth ... mae'r opsiynau'n ddiddiwedd.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn arddangos rhai o'r cyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael ledled GIG Cymru, gan ddechrau gyda nyrsio anabledd dysgu. Byddwch yn clywed gan nyrsys ymroddedig anabledd dysgu sy'n gweithio ledled Cymru a fydd yn dweud wrthych beth mae'n ei olygu i fod yn y rôl, gan gynnwys sut y byddech chi'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, a'ch bywyd chi, bob dydd. Sut y byddech chi'n chwarae rhan bwysig wrth nodi a diwallu anghenion iechyd a lles pobl, wrth wella gofal iechyd, cynhwysiant cymdeithasol ac ansawdd bywyd. Felly, gwyliwch y gofod hwn!

Beth bynnag fo'ch sgiliau, eich cymwysterau neu'ch diddordebau, mae yna yrfa i chi yn y GIG, fe allech chi weithio'n uniongyrchol gyda chleifion, mewn ysbytai, mewn ymddiriedolaeth ambiwlans neu yn y gymuned. Ewch i Swyddi GIG i ddarganfod mwy. Unwaith y byddwch chi'n rhan o dîm y GIG, byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich gyrfa a chyflawni'ch potensial. Pwy a ŵyr, gallai gyrfa werth chweil ym maes gofal iechyd fod yn aros amdanoch chi!