Mae Uned Gymorth Ailddilysu AaGIC (RSU) a'r tîm Digidol bellach wedi ail-lansio ein system Adborth Claf a Chydweithiwr 360 °, sydd ar gael i bob meddyg yng Nghymru, gyda'r nod o fodloni gofynion ailddilysu.
Mae'r system yn darparu maes adborth 360° i feddygon cydweithwyr a chleifion ei ddefnyddio, gan roi adborth gwerthfawr i'r meddyg sy'n galluogi gwelliant parhaus mewn gofal cleifion. Mae'r offeryn ar-lein yn unigryw i Gymru ac mae'n eistedd ochr yn ochr â'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) gyfredol. Bwriedir integreiddio'r ddau offer ar-lein yn ddiweddarach eleni.
Lansiwyd Orbit360 yn swyddogol ym mis Mawrth 2020 ac mae'r ail-lansio hwn yn cyd-daro ag ailddechrau arfarnu ledled Cymru.
Mae'r system yn gwbl ddwyieithog – gan gynnwys holiaduron adborth a chanllawiau i ddefnyddwyr. Mae gennym eisoes 600 a mwy o ddefnyddwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r feddalwedd hon o fewn proffesiwn arall neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Uned Gymorth Ailddilysu heiw.orbit360@wales.nhs.uk
Adborth rydym wedi'i gael ar Orbit 360 gan ein defnyddwyr sy'n defnyddio'n meddygon;
Am y system
Am y ddesg gymorth
Meddai'r Athro Push Mangat, ein Cyfarwyddwr Meddygol yn AaGIC; "Mae Orbit360™ yn ychwanegiad pwysig at gyfres o adnoddau pwrpasol ar-lein i weithwyr meddygol proffesiynol yng Nghymru. Mae hyn ochr yn ochr â'r System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) ar gyfer pob meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig â chorff dynodedig GIG yng Nghymru ac a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i rôl arweiniol AaGIC wrth ddatblygu a chefnogi'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Er gwaethaf yr ymyriadau sylweddol oherwydd COVID-19, mae gennym eisoes dros 600 o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru ar y system ac mae'r adborth yn gyffredinol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ychydig iawn o broblemau cychwynnol a gawsom – sydd yn anghyffredin iawn wrth lansio systemau o'r math hwn. Rwy'n falch iawn o'r gwaith hwn gan Rebecca Newton a'i thîm o fewn yr Uned Cymorth Ailddilysu ochr yn ochr â Jay Beavan a'i dîm digidol wrth iddynt gyflawni'r gamp hon."