Neidio i'r prif gynnwy

Mae Helen Richards Fferyllydd yng Nghymru yn argymell ein cwrs Gwella ar Waith

Mae’r tîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (HSGA) yn gweithio mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru i ddatblygu a chynnal rhaglen unigryw hyfforddiant gwella ansawdd.  Mae’r rhaglen yn darparu hyfforddiant o safon uchel yn yr egwyddorion o wella ansawdd i weithwyr proffesiynol gofal iechyd (hyfforddeion a hyfforddwyr yn bennaf), ynghyd â chydweithwyr yn yr adrannau Fferylliaeth a Deintyddiaeth.

Darllenwch hanes profiadau Helen Richards, hyfforddai llwyddiannus diweddar wrth gymryd rhan yn ein hyfforddiant.  Mae Helen yn Fferyllydd Clinigol Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae wedi cwblhau ein cwrs IQT Arian yn ddiweddar, sy’n cael ei alw’n ‘Gwelliant Ymarferol’ yn awr.

Dyma farn Helen am ei phrofiad diweddar…

I unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd, byddwn yn argymell cwrs gwella ansawdd arian AaGIC (Gwelliant Ymarferol) ar gyfer cyflwyniad ymarferol i egwyddorion a methodoleg gwella ansawdd a hyfforddiant ar sut i’w defnyddio yn eich arfer bob dydd.  Byddwch yn mynychu’r cwrs gyda rhai syniadau am yr hyn sy’n eich llesteirio yn eich diwrnod gwaith a gyda chymorth ac arweiniad yr hyfforddwch cewch wybodaeth i’w defnyddio pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith gyda phrosiect gwella ansawdd mewn golwg a’r offer i gyflawni hyn.  Derbyniais gefnogaeth ac adborth gwych hefyd gan AaGIC i gwblhau adroddiad prosiect a oedd yn bodloni’r achrediad arian gwella ansawdd.

Cyn cwblhau cwrs hyfforddiant gwella ansawdd AaGIC roedd unrhyw ymgais i wella ansawdd yn y gweithle yn arwain at gael fy llethu gan waith ac wedi dadrithio am nad oeddwn yn gwybod beth yr oedd angen i fi ei fesur i allu dangos gwelliant ystyrlon a pharhaus.  Hefyd, nid wyf yn credu fy mod wedi deall y cysyniad ar y pwynt hwn bod pob gwelliant yn newid ond nad yw pob newid yn welliant.

Mae’r cwrs wedi dangos i mi fod gwaith paratoi yn allweddol ar gyfer dylunio, cyflenwi a chynnal ymyrraeth i wella.  Mae cael nod a mesur canlyniad mewn cof sy’n adlewyrchu’r effaith ar y claf ac sy’n nodi nod pendant yn y pen draw wedi troi diffyg eglurder yn ddull rhesymegol a systematig o ddelio â phroblemau.

Y negeseuon allweddol eraill yr wyf wedi’u dysgu gan yr hyfforddiant gwella ansawdd yw bod newid bach yn bwysig, mae’n haws ei gyflawni a phan fyddwch yn agosach at eich nod bydd gennych lawer mwy o gymhelliant i’w gyflawni a chael effaith.  Hefyd, mae gwella ansawdd yn weithgarwch tîm ac mae ymgysylltu a chydweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud yn siŵr bod eich ffocws yn gywir ac mae hyn yn bwysig er mwyn llwyddo.

 

Cododd cyfle secondiad yn ddiweddar i fferyllydd fod yn rhan o gyfadran gwella ansawdd amlddisgyblaeth a ddatblygwyd yn ddiweddar gan fy mwrdd iechyd ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r tîm hanner diwrnod yr wythnos i ddarparu addysg, mentoriaeth a chymorth i dimau sydd â syniadau ar gyfer prosiectau gwella ansawdd.  Mae cwrs AaGIC yn sicr wedi rhoi’r ysgogiad a’r profiad i mi wneud cais am y rôl hon ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd y cam nesaf yn fy nhaith gwella ansawdd.

Mae cynnwys y rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd wedi’i fapio yn erbyn gofynion unigol y cwricwlwm hyfforddiant perthnasol, er mwyn cefnogi cynnydd llwyddiannus drwy’r camau hyfforddi.  Oherwydd COVID-19, mae’r holl weithdai yn cael eu cynnal yn rhithwir am y tro cyntaf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am raglen Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd, gan gynnwys sut i gofrestru am le, cysylltwch â’r tîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd – heiw.qist@wales.nhs.uk.

Am wybodaeth bellach: QIST – AaGIC (gig.cymru)