Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn galw amdanoch CHI!

Mae’r tîm Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar hyn o bryd yn cynnal prosiect i ennyn dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r 13 Proffesiwn Perthynol i Iechyd yng Nghymru. Rydym yn deall bod angen meithrin perthnasau rhwng y naill wasanaeth a’r llall i ehangu ymwybyddiaeth unigolion o’r gwasanaethau a ddarperir a’r modd y gellir manteisio ar adnoddau'r gwasanaethau hynny a gyflenwir gan gydweithwyr i bontio’r bylchau. 

Rydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth sylfaenol a fydd yn ein galluogi i deilwra ein gwaith i gyd-fynd â'ch dealltwriaeth gyfredol ac i weddu i’ch amserlenni prysur. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 7 munud ar gyfartaledd i’w gwblhau, a gwneir hynny’n ddienw. Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl ichi roi atebion gonest.

Byddem yn gwerthfawrogi’ch barn a’ch arbenigedd er mwyn helpu i lunio ymgysylltiad i’r dyfodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Cwblhewch a dychwelwch yr arolwg erbyn dydd Gwener 9 Medi. Byddem yn hynod ddiolchgar am eich cyfranogiad.

P’un a ydych yn AHP, yn cydweithio ag AHP neu am ddarganfod ychydig mwy amdanynt, rydym yn croesawu’ch ymatebion. https://forms.office.com/r/e7pS8k0Psi

I gael y newyddion diweddaraf ynglŷn ag AHP a’r gwaith a fydd yn deillio o ganlyniadau’r arolwg, cofrestrwch â’r rhestr bostio AHP yma: https://forms.office.com/r/kxQXzPVkxp

Diolch ymlaen llaw am eich cyfranogiad!