Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau i gynorthwyo myfyrwyr gyda'u costau dysgu a byw

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cadarnhau y bydd estyniad i Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn 2023-24.

Mae'r fwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy yn darparu pecyn o gymorth ariannol sy'n cynnwys ffioedd dysgu a chyfraniad at gostau byw myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd. Mae’n rhaid i fyfyrwyr cymwys ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.

Fel un o weinyddwyr y fwrsariaeth mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn croesawu’r cyhoeddiad hwn. Mae bwrsariaeth Cymru wedi cynorthwyo cymaint o bobl i ennill cymwysterau, datblygu eu gyrfa yn y GIG a helpu pobl Cymru.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn addysg ac hyfforddiant ein nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol medrus eraill sy'n gweithio yn ein GIG. Mae’r sefydliad yn gweithio i sicrhau bod gan weithlu’r GIG y sgiliau a’r gallu i greu ‘Cymru iachach’ yn y dyfodol.

Dywedodd Beverlea Frowen, Rheolwr Perthynas Bwrsariaeth GIG Cymru, “Mae’r cynllun wedi rhoi cymorth gwerthfawr i lawer o bobl o gefndiroedd amrywiol i’w galluogi i hyfforddi ac i weithio yng Nghymru er budd pobl Cymru yn y pen draw.”

Mae'r flwyddyn ychwanegol o gyllid yn caniatáu digon o amser i'r holl randdeiliaid gyfrannu at adolygiad o'r cynllun i sicrhau bod yr amcan cyffredinol yn cael ei gyflawni'n effeithiol. Mae hyn hefyd yn rhoi amser i asesu ei apêl i ddarpar fyfyrwyr i sicrhau bod gweithlu digonol, cynaliadwy o safon uchel yn parhau i fod ar gael yng Nghymru.

Mae AaGIC yn gweinyddu’r cynllun mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, a Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ledled Cymru.