Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceisiadau am swyddi Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yng Nghymru bellach ar agor

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer swyddi Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr 2023 yng Nghymru bellach ar agor.

Mae’r STP, sy’n cael ei rhedeg ledled y DU gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd, yn rhaglen hyfforddi genedlaethol a ariennir yn llawn o ddysgu seiliedig ar waith ac academaidd ar gyfer graddedigion sy’n dymuno sicrhau rolau uwch wyddonwyr o fewn y GIG. Mae'r rhaglen tair blynedd yn cynnwys cwblhau gradd meistr achrededig gyda phrifysgol yn y DU a chymhwysedd i gofrestru gyda'r Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal (HCPC) fel Gwyddonydd Clinigol.

Eleni, mae hyd at 50 o swyddi dan hyfforddiant STP ar gael yng Nghymru, ac mae pob un ohonynt yn dechrau ym mis Medi 2023. Mae rhestr lawn o swyddi i’w gweld ar ein gwefan. Nid yw'r ffurflen gais ar gyfer nifer fach o'r swyddi hyn ar gael ar-lein eto. Mae manylion ynghylch pryd y bydd y swyddi hyn yn mynd yn fyw ar Trac (porth recriwtio'r GIG) hefyd i'w gweld ar ein gwefan.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus i swyddi hyfforddi yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontract tair blynedd, cyfnod penodol gan Fwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth GIG Cymru sydd â chyflog Band 6 (Agenda ar gyfer Newid).

Yn ogystal, caiff ffioedd academaidd a rhaglen lawn yr hyfforddeion eu hariannu a gallant gael bwrsariaeth o hyd at £2,000 ar gyfer anghenion hyfforddi ychwanegol. Yng Nghymru, mae’r rhaglen, cyflog yr hyfforddai a’r fwrsariaeth i gyd yn cael eu hariannu gan AaGIC. Mae'r arbenigeddau penodol a ariennir yng Nghymru bob blwyddyn yn dibynnu ar y gweithlu sydd ei angen ar wasanaethau ar draws GIG Cymru. Er y gall yr arbenigeddau sydd ar gael amrywio bob blwyddyn, mae nifer y swyddi STP yn gyffredinol yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae ceisiadau am recriwtio STP yng Nghymru yn cau Dydd Llun, 6ed Chwefror, 2023 am 5yp. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad panel wyneb yn wyneb neu o bell fel y nodir ar y gwahoddiad.

Gall ymgeiswyr wneud cais am uchafswm o ddwy swydd i GIG Cymru a rhaid iddynt feddu ar radd anrhydedd (1af neu 2:1) mewn maes gwyddoniaeth bur neu gymhwysol sy'n berthnasol i'r arbenigedd y maent yn gwneud cais amdano. Bydd ymgeiswyr sydd â gradd 2:2 berthnasol hefyd yn cael eu hystyried os oes ganddynt MSc neu PhD mewn maes arbenigol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid Gweithlu ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd, Dr Sarah Bant: "Mae ein gwyddonwyr gofal iechyd yn hanfodol i GIG Cymru ac mae’r ddisgyblaeth yn cynnig ystod eang o yrfaoedd i ddewis o. O weithio mewn labordai a rhedeg clinigau cleifion hyd at ddatblygu deallusrwydd artiffisial, darparu cwnsela a gwella data iechyd sy’n arwain at ymchwil clinigol, mae’r STP yn cynnig llwybr hyfforddiant a gyrfa wobrwyol er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth i weithlu’r GIG ac i gleifion."

Dywedodd Heather Gabriella, gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant mewn Genomeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Mae'r STP yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi na fyddech chi'n eu cael fel arfer fel myfyriwr neu weithiwr ac mae'n llwybr gyrfa perffaith i unrhyw un sydd eisiau defnyddio gwyddoniaeth i helpu eraill."

Mae rhagor o wybodaeth am y STP yng Nghymru ar gael yma.


Swyddi STP yng Nghymru

**Bydd ceisiadau am y swydd Biowybodeg Glinigol (Gwybodeg Iechyd) yn cau ar 20 Chwefror. Mae hyn oherwydd oedi gyda'r hysbyseb swyddi yn mynd yn fyw ar Trac oherwydd oedi gweinyddu annisgwyl. 

Defnyddiwch y dolenni uchod i wneud cais am eich swydd(au) dymunol ar borth recriwtio GIG Cymru, Trac. Sylwch, gall ymgeiswyr wneud cais am uchafswm o ddwy swydd yr un.