Neidio i'r prif gynnwy

Mae awdurdod sy'n chwarae rhan flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a phennu ffurf y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru wedi dechrau cynnig prentisiaethau dwyieithog i'w weithwyr.

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn 2018 i eistedd ochr yn ochr â’r ymddiriedolaethau a’r byrddau iechyd fel rhan o GIG Cymru. Mae’n cyflogi 570 o staff.

Mae gofyn i AaGiC sicrhau bod y sgiliau cywir gan y bobl gywir i ddarparu gofal iechyd o’r radd flaenaf i bobl Cymru.

Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg yn AaGIC.

Dywed Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg yn AaGIC, fod mwy o’r staff yn dymuno dysgu’r iaith a mwy o’r bobl ifanc sy’n ymgeisio am swyddi yn holi am gyfleoedd i ddysgu neu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Ar hyn o bryd, mae AaGIC yn cefnogi dau brentis, un yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig a’r llall yn ddwyieithog. Mae cynlluniau i gyflogi rhagor o brentisiaid eleni.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cymeradwyo AaGIC am hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy’n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Huw,

Mae’r galw am wasanaethau dwyieithog yn cynyddu’n gyson a’n tasg ni yw cynnig cyfleoedd i’n staff gael dysgu yn eu dewis iaith.

Mae prentisiaethau ar gynnydd yma yn AaGIC gan fod mwy o bobl ifanc o’r farn nad y brifysgol, o anghenraid, yw’r llwybr gorau ar gyfer eu gyrfa nhw. Rydyn ni fel cwmni’n cyfuno prentisiaethau â chyrsiau prifysgol.

Mae prentisiaethau’n helpu fwyfwy i bontio’r bwlch rhwng Lefel ‘A’ yn yr ysgol, y brifysgol a chyfleoedd i ailhyfforddi yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae AaGIC o’r farn y dylai pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gael cyfle i gyfathrebu yn eu dewis iaith, meddai.

Dywedodd Huw,

Yn aml, os yw pobl yn siarad Cymraeg gartref, maen nhw’n fwy cyfforddus o lawer os gallan nhw siarad yr iaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Profwyd mewn llawer o wledydd bod hynny’n arwain at well canlyniadau.

Mae bwrdd AaGIC yn gryf o blaid yr iaith Gymraeg. Mae pob un o’n prif swyddogion ni naill ai’n rhugl yn y Gymraeg neu’n dysgu ac mae hynny’n siarad cyfrolau.

Mae pob math o fusnesau a sefydliadau’n cydnabod gwerth economaidd dwyieithrwydd.

Y cyntaf o weithwyr AaGIC i gychwyn ar brentisiaeth a gyflenwir yn y Gymraeg yn unig yw Cedron Sion, 26 oed, o Borthmadog, sy’n gyfieithydd gyda Thîm Gwasanaethau’r Gymraeg.

Mae Cedron, sy’n Llysgennad Prentisiaethau, yn gweithio ar Brentisiaeth Uwch mewn Ymarfer Cyfieithu (y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau) a gynigir gan Agored Cymru a’i chyflenwi gan Goleg Gŵyr Abertawe.

Dywedodd hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, Ryan Evans:

Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog a gall hynny fod o gymorth mawr i gyflogwyr, yn enwedig wrth ddelio â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith. Mae hefyd yn gaffaeliad i’r cyflogwr.

Mae AaGIC yn esiampl ardderchog ym maes prentisiaethau, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.

Dywedodd Dr Dafydd Trystan, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Mae tynnu sylw at gyflogwyr llwyddiannus sy’n ymwneud â phrentisiaethau yn ffordd ardderchog o ddangos i fusnesau ac unigolion bod cefnogi prentisiaethau dwyieithog yn bosibl ac yn fuddiol.

Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i gyflogwyr a’u gweithwyr ddatblygu eu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella rhagolygon eu busnes a’u cyfleoedd ym myd gwaith.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd am brentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru www.gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffonio 0800 028 4844.