Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC yn falch o ymrwymo i Adduned Cyfamod y Lluoedd Arfog

Ymrwymiad y genedl i’r bobl sydd wedi amddiffyn ein cenedl gyda balchder ac anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad yw Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’n adduniad y byddwn ni’n cydnabod ac yn deall y dylid trin y bobl hynny sydd wedi brwydro dros ein gwlad, a’u teuluoedd, yn deg ac â pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas maent yn eu gwasanaethau â’u bywydau.

Mae’n canolbwyntio ar helpu a chefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog i sicrhau bod ganddynt yr un mynediad at y llywodraeth, gwasanaethau masnachol a chynnych ag unrhyw ddinesydd arall, gan gynnwys:

  • addysg a lles y teulu
  • cael cartref
  • dechrau gyrfa newydd
  • mynediad at ofal iechyd
  • cymorth ariannol
  • gwasanaethau am swn gostyngol

Drwy ymrwymo i’r cyfamod, mae AaGIC yn ymrwymo i’r canlynol:

  • datblygu polisïau sy’n annog gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn
  • recriwtio a chefnogi cyflogaeth cyn-aelodau’r lluoedd arfog a gwŷr/gwragedd/partneriaid pobl sy’n gwasanaethu mewn ffordd ragweithiol
  • cynnig patrymau gweithio rhan-amser a hyblyg i aelodau o’r lluoedd wrth gefn, partneriaid a gwŷr/gwragedd milwrol
  • cynnig cynllun cyfweliadau gwarantedig (gan ddibynu ar yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf sylfaenol fel a nodwyd yn y manyleb person)

Mae AaGIC yn dangos bwriad i gefnogi cymuned y lluoedd arfog a chynnig y cyfle iddynt gael eu cydnabod gan ddyfarniad y Cynllun Cydnabod y Cyflogwyr (ERS).

Yn dilyn hyn, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr sy'n Cefnogi'r rhai hynny sy'n wasanaethau, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod AaGIC yn gyflogwr sy'n ystyriol o'r lluoedd arfog a'i fod yn cadw meddwl agored o ran cyflogi milwyr wrth gefn, cyn-filwyr y lluoedd arfog (gan gynnwys y rhai sydd wedi'u clwyfo, wedi'u hanafu neu sy'n sâl), hyfforddwyr cadetiaid a phartneriaid/gwragedd/gwŷr milwyr.

Meddai Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC: “Rydym yn hynod falch o wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn ddiweddar a chan hynny, cefnogi ein cyflogeion a’u teuluoedd wrth ddarparu cymorth rhagorol i gymuned y lluoedd arfog”.

Dywedodd ein Cadeirydd, Chris Jones: “Addewid gan y genedl i’r bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, neu sydd wedi gwneud hynny, a’u teuluoedd yw Cyfamod y Lluoedd Arfog, i sicrhau y cânt eu trin yn deg. Rydym yn ddiolchgar i’r bobl hynny sydd wedi amddiffyn ein cenedl gyda balchder, anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, ac rydym ni wrth ein boddau i gefnogi ein haelodau o staff mewn unrhyw ffordd y gallwn”.

Mae ein cydweithiwr Amy Whitehead, Cynorthwy-ydd Gweithredol – Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Meddygol a Chynllunio wedi priodi â chyn-filwr y fyddin ac mae’n rhannu ei phrofiad isod. . .

“Roeddwn i wrth fy modd i gael gwybod bod AaGIC yn mynd i gytuno i ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Fel gwraig i gyn-filwr a fu’n gwasanaethu am 20 mlynedd, mae’r lluoedd arfog wedi chwarae rhan enfawr yn ein teulu a’n bywydau gwaith. Mae gweld cydnabyddiaeth o’r gwasanaeth hwn ac ymrwymiad a chefnogaeth y sefydliad i gymuned y lluoedd arfog, yn cyd-fynd â gwerthoedd y cyfamod, yn fy ngwneud yn falch o fod yn aelod o staff AaGIC. Tra’r oeddem ni’n rhan weithgor o’r lluoedd arfog ac yn deulu yn byw ymhlith y gatrawd, roeddwn i’n teimlo bod gen i gefnogaeth gref pan fyddai fy ngŵr wedi’i leoli dramor. Roeddem ni’n ddigon ffodus i dderbyn addysg ragorol ar gyfer ein plant drwy Addysg Plant y Gwasanaethau ac roeddwn i’n gallu gweithio yn y system filwrol. Fodd bynnag, mae ymadael â’r gymuned honno a dychwelyd i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog yn brofiad brawychus, wrth ganfod gyrfa newydd, ysgolion newydd i’ch plant a chartref i’r teulu heb y flanced ddiogelwch mae’r lluoedd arfog yn ei chynnig. Mae gwybod bod AaGIC yn cydnabod ac yn deall y dylid trin y bobl sydd wedi brwydro dros ein gwlad, a’u teuluoedd, yn deg ac â pharch yn eu cymunedau, yn yr economi ac yn y gymdeithas maent yn eu gwasanaethu yn galonogol tu hwnt. Ers ymuno ag AaGIC, rwyf wedi teimlo ymdeimlad o berthyn eto ac rwy’n croesawu’r adduned mae wedi’i wneud”.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.armedforcescovenant.gov.uk/