Cyn bo hir bydd Gogledd Cymru yn cael ei uned hyfforddi ddeintyddol ei hun diolch i gydweithrediad rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) a Llywodraeth Cymru.
Bydd y cyfleuster newydd, y bwriedir ei adeiladu ym Mangor, yn darparu hyfforddiant lleol i aelodau'r tîm deintyddol a'r gobaith yw rhoi hwb i nifer y deintyddion medrus iawn a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol sy'n ymarfer yn y rhanbarth.
Ar ôl ei sefydlu, bydd yr uned yn cynnig hyfforddiant yn amrywio o'r flwyddyn sylfaen, hyd at hyfforddiant craidd ac ymlaen i arbenigedd. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddeintyddion sydd eisoes yn ymarfer yn y rhanbarth uwchsgilio yn eu hardal leol.
Dywedodd Kirstie Moons, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Datblygu'r Gweithlu Tîm Deintyddol yn AaGIC “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn, gan gydnabod yr angen am weithlu deintyddol medrus cynaliadwy yn yr ardal.
“Mae gennym brofiad helaeth o gydweithio ar brosiectau tebyg mewn Byrddau Iechyd eraill a byddwn yn dod â’r arbenigedd hwn i’r prosiect i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion partneriaid, gweithwyr proffesiynol a chleifion.”
Mae diffyg mynediad at wasanaethau deintyddiaeth yng ngogledd Cymru wedi arwain at anawsterau recriwtio a chadw gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol, gan arwain at gau nifer o feddygfeydd. Mae'r datblygiad hwn yn rhan o gynlluniau ehangach gan BCUHB i wella mynediad at wasanaethau deintyddiaeth ar draws rhanbarth gogledd Cymru gyfan.