Neidio i'r prif gynnwy

Mae AaGIC yn amlygu ei gyflawniadau cydraddoldeb allweddol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019-2020.

Amlinella’r adroddiad y cynnydd y mae AaGIC wedi’i wneud hyd yma o ran cyflawni ei ymrwymiad i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei holl arferion a gweithgareddau.

Y mae ambell uchafbwynt o fewn yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • sefydlu’r Bwrdd Rhaglen Cyrhaeddiad Gwahaniaethol at ddiben ymafael â’r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad addysg a hyfforddiant gwahanol grwpiau o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
  • diweddaru pecynnau e-ddysgu i gynnwys pynciau cydraddoldeb megis ystrydebu a rhagfarn ddiarwybod.
  • datblygu modiwlau diwrnod hyfforddi ac e-ddysgu penodol ar gyfer Meddygon Teulu ynghylch hunaniaeth o ran rhywedd ac iechyd trawsryweddol
  • cyflwyno saith meddyg newydd i Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD) sy’n helpu gweithwyr meddygol proffesiynol o’r cefndiroedd yma i gyflawni’r cymwysterau proffesiynol sydd eu hangen i gefnogi’r GIG.

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC a derbynnydd diweddar wobr Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaid (BAPIO) am wasanaethau i Addysg a Hyfforddiant Meddygol, “Ers ein cread yn 2018, mae AaGIC wedi ymrwymo i ymblannu cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.”

“Mae’r adroddiad hwn yn gyfle i arddangos y gwaith rhagorol a wnaed eisoes a rhannu ein cynlluniau ynghylch sut yr ydym yn bwriadu ymledu ein gwaith ar gydraddoldeb ymhellach drwy ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 cyntaf.”

Fel corff cyhoeddus rhestredig, mae’n ofynnol i AaGIC gyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn yn manylu ar sut y mae’n gweithio i gyflawni’r dyletswyddau penodol fel y'u nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Gallwch weld Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol AaGIC 2019-2020 a Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 nawr ar wefan AaGIC.