Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant cwrs newydd yn arwain at gyllid ar gyfer lleoedd ychwanegol

Gan fod Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mor llwyddiannus o ran hyfforddi meddygon cyswllt, mae wedi derbyn cyllid eisoes i gynnig lleoedd ychwanegol.  

 

Graddiodd ei charfan gyntaf o fyfyrwyr Meistr mewn Astudiaethau Meddyg Cyswllt yr haf diwethaf ond bellach bydd nifer y lleoedd ar gael ar y cwrs dwy flynedd yn cynyddu o 10 i 30 y mis Medi hwn. 

 

Meddai Cyfarwyddwr y Cwrs, Dr Wyn Harris (yn y llun yn croesawu ymwelwyr i’r digwyddiad gyrfaoedd meddygon cyswllt diweddar yn yr Ysgol Feddygaeth):, "Mae hyn yn arwydd o lwyddiant y cwrs ac effaith gadarnhaol meddygon cyswllt yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru."

 

Mae rôl y meddyg cyswllt yn tyfu'n gyflym ym maes gofal iechyd ac maent yn gweithio wrth ochr meddygon mewn ysbytai a meddygfeydd, gan gefnogi’r gwaith o ddiagnosio a rheoli cleifion.

 

Ariennir y lleoedd hyfforddi ychwanegol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sef y corff sy'n goruchwylio addysg a hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru.

 

Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC yr Athro Push Mangat rôl gynyddol bwysig meddygon cyswllt: "Maent yn ategu'r modelau meddygol presennol ac yn darparu gofal parhaus hanfodol i gleifion. Rydym wrth ein bodd bod AaGIC wedi gallu ariannu’r lleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer meddygon cyswllt ac edrychwn ymlaen at groesawu'r hyfforddeion newydd i GIG Cymru."

 

Yn ogystal â chyflawni cyfradd lwyddo o 100 y cant eleni yn y Prawf Cenedlaethol ar gyfer Meddygon Cyswllt, nododd graddedigion cwrs meddygon cyswllt eleni eu bod 100 y cant yn fodlon ar raglen Abertawe.

 

Meddai Brad Sewell, sy'n fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf: "Dewisais i astudio yn Abertawe gan fy mod i'n mwynhau rhyngweithio â chleifion a chan fy mod i eisiau helpu i roi'r gofal gorau posib iddyn nhw.

 

"Rydym yn dysgu wrth ochr myfyrwyr meddygol, meddygon a nyrsys ar draws ehangder ymarfer clinigol. Rydym yn hyfforddi gyda'n gilydd gan y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn y pen draw - boed hynny mewn darlithfa neu ar leoliad gwaith a'r tu hwnt."

 

Mae Tom Addison, bellach yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl cwblhau'r cwrs.

 

Meddai: "Mae defnyddio meddygon cyswllt mewn ymarfer yn enghraifft o sut y gellir darparu mwy o ofal ar draws llawer o wasanaethau, gan leihau'r pwysau ar lefelau staffio a chan ddarparu gweithlu dibynadwy a chyson sy'n gallu cyfrannu at y gwaith o archwilio, diagnosio a rheoli cleifion."

 

Meddai Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth yr Athro Keith Lloyd: "Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a chefnogi iechyd a gwyddor bywyd gweithlu'r dyfodol - ac mae'n meddygon cyswllt yn rhan bwysig iawn o'r gweithlu hwnnw. Bydd y lleoedd ychwanegol hyn yn sicrhau y bydd ein cwrs Astudiaethau Meddyg Cyswllt yn parhau i ffynnu a darparu gweithlu'r GIG yn y dyfodol."

 

Meddai Ian Evans, cydlynydd Meddygon Cyswllt Bwrdd Iechyd PABM, ei bod yn foddhaol iawn gweld y gwaith caled sy'n cael ei wneud yn Abertawe'n cael ei wobrwyo.

 

"Mae'n amlwg bod yr Ysgol Feddygaeth a'i phartneriaid yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran darparu meddygon cyswllt sy'n barod i ymarfer ac y byddant yn parhau i wneud hynny yn y blynyddoedd sydd i ddod," meddai.

 

Ychwanegodd Jodie Smith, sy'n fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf: "Mae gan  Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe enw rhagorol fel cymuned fach a chyfeillgar sy'n gofalu ac mae hefyd wedi'i henwi ymhlith y tair ysgol orau.   Pam na fyddai rhywun eisiau hyfforddi mewn rhywle fel hynny?"

 

 

Nodiadau

 

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru yw AaGIC a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad iechyd allweddol yng Nghymru ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau y Gweithlu, Addysg a Datblygu GIG Cymru (GGAD); a Chanolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion (WCPPE). 

Ochr yn ochr â’r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, mae gan AaGIC rôl arweiniol ym maes addysgu, hyfforddi, datblygu a dylanwadu ar y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Ymhlith ei swyddogaethau allweddol mae: addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio’r gweithlu, datblygu arweinwyr, cynllunio’r gweithlu yn strategol, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.

Prifysgol dau gampws yw Prifysgol Abertawe sy’n cael ei harwain gan ymchwil. Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 a bellach mae’n cynnig oddeutu 330 o gyrsiau israddedig a 120 o gyrsiau ôl-raddedig i 16,800 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

 

Mae Campws Parc Singleton wedi’i lleoli mewn parcdir prydferth â golygfeydd ar draws Bae Abertawe. Mae Campws y Bae yn gampws gwyddoniaeth ac arloesi sydd wedi’i leoli ar safle 65 acer ar y ffordd i mewn i Abertawe o gyfeiriad y dwyrain.  Hwn yw un o’r ychydig gampysau yn y byd sydd â mynediad uniongyrchol at draeth a’i bromenâd glan môr ei hun. Mae’r ddau gampws ar gyrion penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y Deyrnas Gyfunol.

 

Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod y Brifysgol wedi  cyflawni ei huchelgais i fod yn y 30 uchaf o brifysgolion ymchwil, gan neidio i safle 26 yn nhabl cynghrair y Deyrnas Gyfunol, gyda’r ‘naid fwyaf ymysg sefydliadau ymchwil- dwys’ (Times Higher Education, Rhagfyr 2014) yn y Deyrnas Gyfunol.

 

Mae gan y Brifysgol gynlluniau ehangu uchelgeisiol wrth iddi symud tuag at ei chanmlwyddiant yn 2020, ac wrth iddi barhau i ehangu ei chyrhaeddiad byd-eang , mae’r brifysgol yn symud yn nes at wireddu ei huchelgais o ddod yn y 200 uchaf o brifysgolion byd-eang.

 

Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig. Rhif 1138342. Ewch i www.abertawe.ac.uk.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe,  Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: press@swansea.ac.uk