Neidio i'r prif gynnwy

Llunio dyfodol y gweithlu iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ystod eang o bobl o bob cwr o Gymru wedi rhannu eu syniadau ynghylch llunio gweithlu iechyd meddwl y dyfodol.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynyddu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael a diwallu'r galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl, gyda'r gwasanaeth yn gorfod addasu ymhellach oherwydd pandemig Covid-19. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, cydnabyddir bod y gweithlu iechyd meddwl presennol yn fregus.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer gweithlu cryf, cynaliadwy ac amlddisgyblaethol sy'n cynnig gofal tosturiol i bobl Cymru. Bydd y weledigaeth yn cefnogi Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22 Llywodraeth Cymru a datblygiadau sector yn y dyfodol.

Ym mis Hydref 2020, cymerodd bron i 2,500 o bobl ran mewn cynhadledd iechyd meddwl rithwir ryngweithiol mis o hyd i rannu eu syniadau er mwyn helpu i ffurfio’r gweithlu i’r dyfodol sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl blaenllaw yng Nghymru. Mae adroddiad adborth ar y digwyddiad bellach wedi'i gyhoeddi yn amlinellu'r meysydd ffocws allweddol.

Un uchelgais yw gwella recriwtio. Trwy ddarparu cyfleoedd gyrfa deniadol ac arloesol, nod y sector yw dangos potensial enfawr gyrfa ym maes iechyd meddwl.

Mae hefyd angen darparu dilyniant gyrfa a boddhad swydd i'r rhai sy'n gweithio yn y sector. Er enghraifft, mynediad at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ac ehangu mynediad trwy lwybrau gyrfa anhraddodiadol megis prentisiaethau.

Er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n diwallu anghenion y rhai sy'n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl, mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd darparu gofal a arweinir gan gleifion ac a yrrir gan ansawdd.

Mae meysydd ffocws eraill yn cynnwys gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddefnyddio technolegau digidol, meithrin diwylliant arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol, hyrwyddo dysgu rhyngddisgyblaethol i sicrhau safoniad hyfforddiant a sicrhau bod data cadarn yn arwain cynllun y gweithlu.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr, AaGIC: “Roeddem yn falch iawn bod cymaint o'n cydweithwyr, partneriaid a defnyddwyr gwasanaeth wedi rhannu eu syniadau ynghylch gweithlu iechyd meddwl y dyfodol yn ein cynhadledd ryngweithiol fis Hydref y llynedd, a chynhaliwyd mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru.

“Mae’r adroddiad adborth hwn yn dangos ein cynllun uchelgeisiol ar gyfer gweithlu’r dyfodol a pha sut y byddwn yn datblygu atebion newydd ac yn ymafael â heriau gwasanaeth mewn ffordd greadigol.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth gadarn a chryf a gynhyrchwyd drwy’r Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Bydd y wybodaeth a enillwyd yng nghynhadledd y gweithlu iechyd meddwl yn ein cynorthwyo i adeiladu cynllun gweithlu clir, seiliedig ar weithredu, ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl sy’n canolbwyntio’n glir ar heriau adferiad Covid-19 yn ogystal â chwrdd â gofynion darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.”

Mae adroddiad AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn amlinellu eu gweledigaeth i adeiladu ar y cynnydd a'r buddsoddiad a welwyd eisoes yn y sector iechyd meddwl. Er enghraifft, mae nifer y penodiadau swyddi nyrsio iechyd meddwl wedi cynyddu’n fwy na 25% yn ystod y tair blynedd ddiwethaf gyda chynnydd o 15% wedi ei arfaethu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Wrth edrych ymlaen, bydd y ddau sefydliad yn parhau i ymgysylltu â'r gweithlu iechyd meddwl a defnyddwyr gwasanaeth er mwyn datblygu cynllun cynaliadwy i lunio gweithlu'r dyfodol.

Darllenwch yr Adroddiad Adborth Cynhadledd Iechyd Meddwl Rithwir llawn.