Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i Kirstie Moons ar ei phenodiad yn Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig AaGIC

Annwyl Gydweithwyr,

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, ein bod wedi penodi Kirstie Moons yn Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig AaGIC.

Bydd Kirstie yn dechrau yn ei swydd gyda ni yn y flwyddyn newydd ar ôl bod yn Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Dros Dro yn AaGIC. Cyn hyn roedd hi’n Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Datblygu a Chynllunio'r Gweithlu Tîm Deintyddol.

Mae Kirstie wedi gweithio ym maes deintyddiaeth yng Nghymru trwy gydol ei gyrfa ers cymhwyso fel nyrs ddeintyddol ym 1990. Mae ganddi hanes hir o weithio ym maes Addysg Ddeintyddol yng Nghymru, yn y Ddeoniaeth a chyn hyn yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd lle bu'n ymwneud â'r addysg a hyfforddiant pob aelod o'r tîm deintyddol.

Tan yn ddiweddar roedd Kirstie yn aelod cofrestredig Cyngor Cymru ar y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, lle bu hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Polisi ac Ymchwil. Mae'n aelod o Bwyllgor Deintyddol Cymru ac yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Prif Swyddog Deintyddol i ddatblygu'r tîm mewn deintyddiaeth yn y rhaglen ddiwygio a chyn hyn.

Bydd Kirstie yn adeiladu ar waith rhagorol ei rhagflaenwyr yn y rôl ac yn sicrhau bod ansawdd rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer y tîm deintyddol yn cael eu cynnal a'u cryfhau ac yn meithrin perthnasoedd a chydweithrediadau newydd ac yn cofleidio cyfleoedd i sicrhau bod y weledigaeth a'r uchelgais ar gyfer AaGIC yn wedi'i gyflawni.

Hoffwn hefyd cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Kirstie a William McLaughlin sydd wedi bod yn rhannu rôl Deon Deintyddol Ôl-raddedig dros dro tra bo'r broses benodi'n digwydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ddau ohonyn nhw am eu cefnogaeth a'u harweinyddiaeth yn ystod yr amser hwn.

Dymuniadau gorau,

Alex

Alex Howells
Prif Weithredwr