Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Rhaglen i Raddedigion ar gyfer arweinwyr dyfodol GIG Cymru

Mae'r chwilio wedi dechrau ar gyfer arweinwyr GIG Cymru y dyfodol drwy lansio rhaglen gyffrous newydd i raddedigion.

Mae Rhaglen Graddedigion Rheoli Cyffredinol y GIG dwy flynedd sy'n seiliedig ar waith, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys rhaglen Meistr wedi'i hariannu'n llawn.

Dylai ymgeiswyr fod yn angerddol ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Byddant yn wynebu amrywiaeth o heriau gwahanol a fydd yn sicrhau bod system gofal iechyd fodern, flaengar o'r radd flaenaf yn parhau i gael ei darparu yng Nghymru.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u lleoli o fewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru, gan helpu'r gwasanaeth iechyd i gynyddu ei allu i wrthsefyll a gwella'n barhaus tra'n creu ffyrdd creadigol ac arloesol o weithio.

Bydd pecyn cymorth helaeth ar gael i'r rhai sydd ar y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu, hyfforddi a mentora gan arweinwyr ysbrydoledig a deinamig, gan alluogi hyfforddeion i ddatblygu sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth dosturiol.

Gan weithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol, bydd yr hyfforddeion hefyd yn profi cymysgedd o ddysgu academaidd ac ymarferol tra byddant wedi'u lleoli mewn lleoliadau mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd ac o fewn adran gorfforaethol.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: "Mae lansio'r rhaglen genedlaethol hon ar hyn o bryd i chwilio am arweinwyr GIG Cymru yn y dyfodol yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn parhau i gael ein harwain gan y dalent orau sydd gennym yng Nghymru. 

"Bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i'r hyfforddeion weithio ar draws ystod eang o leoliadau ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sut mae ein teulu GIG cymhleth ac amlwg yn gweithio'n wych gyda'i gilydd i sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion, cydweithwyr a phartneriaid tra'n gweithio tuag at radd Meistr wedi'i hariannu'n llawn."

Dywedodd Alex Howells, prif weithredwr AaGIC sydd ei hun yn un o gynddisgybles rhaglen graddedigion GIG Cymru, "Rydym yn hynod gyffrous i lansio ein rhaglen genedlaethol rheoli newydd ar gyfer graddedigion sy'n cynrychioli llwybr pwysig arall i unigolion talentog ymuno â'r GIG yng Nghymru ar gyfer gyrfaoedd boddhaol.

"O safbwynt personol, darparodd y rhaglen sylfaen wych i mi ar gyfer amrywiaeth eang o rolau yn arweinyddiaeth a rheolaeth y GIG, ac mae ein rhaglen newydd yn edrych hyd yn oed yn well nag o'r blaen."

Mae'r llwybr gyrfa carlam hwn yn agored i bob graddedig sydd wedi cyflawni o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd ac sydd â chaniatâd i weithio yn y DU.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen sy'n dechrau ym mis Hydref 2021 bellach ar agor.

I gael gwybod mwy a gwneud cais ewch i https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/grad-programmes

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus y rhaglen yn cael cyflog band 6 o £26,523, 27 diwrnod o wyliau y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc, yn cofrestru ar gynllun pensiwn y GIG, yn ogystal â chyfle i wneud cais am rôl barhaol yn eu sefydliad cynhaliol ar ddiwedd y rhaglen. 
     
  • Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru. Gan eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys: addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.