Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Pecyn Cymorth i Reolwyr practis a Gweinyddwyr

Mae ein pecyn cymorth digidol newydd bellach wedi'i ryddhau ar gyfer rheolwyr practis a staff gweinyddol o fewn bractis cyffredinol. Mae’r cam datblygu'r adnoddau yn dechrau nawr, gan ganolbwyntio ar gynnydd ac nid perffeithrwydd, gall unrhyw un gael mynediad i'r platfform naill ai ar ffôn symudol, bwrdd gwaith neu dabled – dilynwch y ddolen yma Adnoddau Pecyn Cymorth

Mae'r cam hwn yn nodi moment allweddol ar gyfer datblygiad ac addysg barhaus aelodau staff anghlinigol o fewn Gofal Sylfaenol, gan alluogi defnyddwyr i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau wedi'u teilwra'n benodol i'w hanghenion dysgu.

Mae'r prosiect wedi cynnwys rheolwyr practis a staff gweinyddol o'r cysyniad hyd at y ddarpariaeth ac yn hir ddisgwyliedig gan y rhai sydd wedi adolygu'r fersiynau drafft.

Dechreuwch ddefnyddio heddiw a rhoi adborth naill ai drwy’r swyddogaeth ryngweithiol o fewn yr adnodd neu drwy e-bostio

heiw.primarycare@wales.nhs.uk