Neidio i'r prif gynnwy

Lansio hyfforddiant Sylfaen Iechyd Meddwl newydd ac Ymwybyddiaeth o Drawma

Mae'n bleser gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) lansio'r cyrsiau Llythrennedd Iechyd Meddwl Sylfaenol (Lefel 1) ac Ymwybyddiaeth o Drawma.

Mae’r cyrsiau wedi’u creu mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o randdeiliaid iechyd meddwl ar draws sectorau gan gynnwys:

  • gofal iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • y sector gwirfoddol

I’r perwyl hwnnw, mae’r cwrs wedi’i gynllunio i helpu’r holl staff sy’n gweithio gyda phobl ac a fyddai’n gwerthfawrogi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am iechyd meddwl a thrawma.

Nod y cwrs yw meithrin dealltwriaeth sylfaenol o iechyd meddwl a thrawma, gan gynnwys: 

  • adnabod cyflyrau iechyd meddwl a sut y gallant effeithio ar bobl 
  • codi ymwybyddiaeth am stigma o fewn iechyd meddwl 
  • y dirwedd y tu ôl i hunanladdiad a hunan-niweidio 
  • sut i ymdrin â sgyrsiau anodd sy'n ymwneud ag iechyd meddwl 
  • ymwybyddiaeth o drawma ar bob oedran a sut mae'n effeithio ar fywydau pobl 
  • ystadegau am iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio i helpu staff i deimlo'n fwy gwybodus am iechyd meddwl ac yn fwy cyfforddus wrth siarad â phobl am eu sefyllfaoedd.

Ar ôl cwblhau'r cyrsiau, dylai staff deimlo'n fwy parod i helpu i gefnogi pobl, eu cyfeirio at adnoddau a gwasanaethau a rhoi cyngor priodol wrth ymdrin ag iechyd meddwl. 

Ewch i dudalen we Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol Y Tŷ Dysgu i gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant iechyd meddwl yng Nghymru.