Neidio i'r prif gynnwy

Lansio cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant newydd

Yr wythnos hon mae dysgwyr ledled Cymru, sy'n anelu am yrfa yn y sector gofal, wedi cychwyn astudio cyfres newydd o gymwysterau sydd wedi'u cynllunio i gryfhau'r proffesiwn ar gyfer y dyfodol. Bydd y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant newydd yn helpu i gryfhau'r sector gofal ar adeg pan mae ei wasanaethau'n darparu achubiaeth hanfodol i gymunedau a theuluoedd ledled Cymru. 

Mae'r cymwysterau, gaiff i gyd eu cynnig yn ddwyieithog, hefyd yn darparu safon gydnabyddedig a chyson i bawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, ac yn cynnig llwybr gyrfa clir i'r rhai sydd am symud ymlaen.

Wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Chymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’u darparu gan gonsortiwm sy'n cynnwys Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a City and Guilds, gall myfyrwyr nawr weithio tuag at amrywiaeth o gymwysterau yn seiliedig ar eu diddordebau neu eu swyddi. Mae Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, yn credu fod y potensial yma i sefydlu Cymru fel arweinydd yn y sectorau pwysig hyn, “Wrth ddatblygu’r cymwysterau hyn rydym wedi gweithio mewn ffordd gydweithredol iawn gyda chydweithwyr yn y sectorau cymdeithasol a gofal plant ac iechyd a rheoleiddwyr y gweithluoedd hyn yng Nghymru i sicrhau bod y cymwysterau yn diwallu anghenion y sector yn llawn.

“Rydyn ni'n hyderus y bydd y safonau gaiff eu rhoi ar waith yn destun cenfigen i'r sector gofal mewn gwledydd tu hwnt i Gymru.”

Yn gynharach eleni, lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru ymgyrch tymor hir o dan y faner Gofalwn Cymru i ddenu mwy o bobl i weithio yn y maes gofal, gyda’r nod o recriwtio 20,000 o weithwyr  ychwanegol erbyn 2030 i ateb y galw cynyddol, yn dilyn ymchwil sy’n dangos bod disgwyl i nifer y bobl yn eu 80au gynyddu o 44% erbyn 2030. Ychwanegodd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans, “Rhaid i’r rhai sy’n cychwyn ar yrfa yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant fod yn hyderus bod eu proffesiwn yn un sy’n meithrin talent, yn gwobrwyo sgiliau, ac yn caniatáu gwireddu uchelgeisiau. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud, a bydd yn galluogi'r sector i ymgymryd â'r heriau sydd o'n blaenau." Caiff y mwyafrif o’r cymwysterau newydd eu cyflwyno ar gyfer eu haddysgu yn gyntaf ym mis Medi 2019, gyda'r gweddill yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2020. Bydd cyfnod pontio i'r rhai sydd eisoes yn astudio ar gyfer cymwysterau presennol er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn medru ymuno â'r sector.

Alex Howells yw Prif Weithredwr AaGIC, “Nid oes ar ein sectorau ofn her a newid, fel y gŵyr unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. Ond nid cael gwared ar yr hyn sydd wedi digwydd o'r blaen yw’r bwriadu ond adeiladu ar y cryfderau. Rhaid i gymwysterau ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ond, y nod yn y pen draw yw diwallu anghenion miloedd o unigolion a theuluoedd sy'n dibynnu ar ofal a chefnogaeth bob dydd. Ein dyhead yw bod y cymwysterau hyn yn parhau i gefnogi a helpu i ddatblygu gweithlu medrus a hyderus.” Mae'r cymwysterau presennol wedi'u symleiddio er mwyn bod yn fwy eglur a chliriach, gyda dros 240 o gymwysterau wedi'u lleihau i gyfres oddeutu 20. Byddant yn cael eu darparu gan gonsortiwm o'r CBAC a City & Guilds, sydd â hanes cryf o ddatblygu cymwysterau dwyieithog, dyluniad asesu. a darpariaeth.

Dafydd Evans yw Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai ac mae'n croesawu'r cymwysterau newydd, “Mae'r cymwysterau newydd hyn yn hanfodol os ydym am recriwtio'r gweithlu medrus yn y niferoedd sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol. Mae gennym lawer o fyfyrwyr sy'n dymuno cael gyrfa yn y sectorau hyn a chan fod gan y cymwysterau newydd ffocws cliriach ac yn symlach maent yn sicr yn fwy deniadol i'n myfyrwyr. “Mae'n galonogol cael sector sy'n barod i foderneiddio, bob amser yn ceisio gwella, ac yn deall bod yn rhaid i wasanaethau esblygu i ddiwallu anghenion y presennol a'r dyfodol. Dyna’n union y mae’r cymwysterau newydd hyn yn ei gynnig inni.”

Ychwanegodd Kathleen McMullen, Rheolwr y Ganolfan Asesu ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol yng Ngwasanaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf: “Yn y sector gofal, mae'n hynod bwysig rhoi profiad cadarnhaol a'r gwasanaeth gorau posibl i unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Gall y cymwysterau newydd hyn ond helpu i gryfhau’r nod hwnnw drwy arfogi staff i wneud eu swyddi hyd yn oed yn fwy effeithiol - rwy'n gyffrous i fod yn rhan o'r adeg hynod bwysig hon i'r sector.”  Os oes unrhywun am gael mwy o wybodaeth am y cymwysterau newydd neu gychwyn ar gwrs, ewch i www.dysguiechydagofal.cymru.