Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnodd adsefydlu i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ar y cyd â phartneriaid, wedi rhyddhau adnodd digidol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n cefnogi unigolion ag anghenion adsefydlu.

Wedi'i datblygu ar ôl cyhoeddi adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar anghenion adsefydlu pobl y mae COVID-19 yn effeithio arnynt, nod y rhestr chwarae yw galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gydweithio mewn dull system gyfan, gan gefnogi'r rhai ag anghenion adsefydlu pryd bynnag a ble bynnag y byddant yn dod i gysylltiad â darparwr gwasanaeth.

Mae'n cwmpasu ystod eang o wybodaeth ar gyfer pob lefel o ddysgwyr, gan gynnwys manylion am sut y gall adsefydlu gefnogi pobl sy'n:

  • gwella o COVID-19,
  • aros i'w gofal iechyd arfaethedig gael ei ail-sefydlu (e.e. gweithdrefnau llawfeddygol neu weithdrefnau eraill – gan gynnwys canser),
  • dysgu ymdopi â diagnosis newydd o gyflwr hirdymor; a
  • cael anawsterau gyda gweithgareddau dyddiol ar ôl amddiffyn.

Dywedodd Wendy Wilkinson, Pennaeth Trawsnewid Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn AaGIC, "Nod yr adnodd hwn yw helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i annog y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau i gymryd perchnogaeth dros eu hadferiad, neu eu hadferiad rhag salwch neu anaf.

"Drwy ganolbwyntio ar 'beth sy'n bwysig' i bobl yn ein gofal, mae gennym well siawns o gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau iddynt yn y tymor byr a'r tymor hir".

Mae'r adnodd bellach ar gael i'r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol drwy ymweld â https://ytydysgu.heiw.wales/go/vhlsgg.